Michelangelo
Roedd Michelangelo di Lodovico Buonarroti (Mawrth 6, 1475 – Chwefror 18, 1564), a elwir yn Michelangelo, yn gerflunydd, peintiwr, pensaer a bardd o gyfnod y Dadeni Eidalaidd. Ynghŷd â'i gyfoediwr a'i gyd-ddyn o Fflorens, Leonardo da Vinci, caiff Michelangelo ei ystyried fel un o "wŷr y Dadeni", dynion a all droi eu dwylo at unrhyw faes a'i feistroli'n llwyr.
Roedd yr athrylith hwn wedi cwblhau un o'i gampweithiau, y Pietà sydd heddiw ym Masilica Sant Pedr yn Rhufain, cyn ei fod yn ddeg ar hugain oed, ac un arall, y cerflun o Dafydd, yn ei dri degau cynnar. Er gwaetha'r ffaith ei fod yn ystyried ei hun yn gerflunwyr cyn pob dim, creodd Michelangelo hefyd ddau o'r peintiadau fresco mwyaf dylanwadol yn hanes celf ar nenfwd a wal ddwyreiniol y Cappella Sistina (hefyd yn Rhufain). Meistrolodd Michelangelo bensaernïaeth yn ei henaint a cynlluniodd gromen San Pedr yn 70 oed. Roedd effaith yr arlunydd ar bob un o'r maesydd yma yn chwyldroadol.
Yn wahanol i lawer o artistiaid cyn y Dadeni Dysg, cydnabwyd Michelangelo fel athrylith tra'r oedd yn dal yn fyw, ac fe'i galwyd yn Il Divino, "yr un dwyfol" (llysenw addas o ystyried ei fod yn ŵr crefyddol iawn). Cyhoeddwyd dau fywgraffiad ohono tra yn fyw, un gan Giorgio Vasari, cyfaill i Michelangelo, a'r llall gan Ascanio Condivi. Diolch i Vasari yn bennaf cafodd Michelangelo ei ystyried fel copa pob cyrhaeddiad yng nghelf am ganrifoedd wedi ei farwolaeth.
-
Dafydd, 1501-1504