Cappella Sistina

Oddi ar Wicipedia
Cappella Sistina
Mathcapel, atyniad twristaidd, priodwedd cenedlaethol, eglwys Gatholig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPab Sixtus IV Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1473 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPalas y Fatican Edit this on Wikidata
Siry Fatican Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Fatican Y Fatican
Cyfesurynnau41.9031°N 12.4544°E Edit this on Wikidata
Hyd40.9 metr Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth y Dadeni Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganPab Sixtus IV Edit this on Wikidata
Cysegrwyd idyrchafael Mair Edit this on Wikidata
Crefydd/EnwadCatholigiaeth Edit this on Wikidata
EsgobaethEsgobaeth Rhufain Edit this on Wikidata

Prif gapel Palas y Fatican yn Rhufain ydy'r Cappella Sistina. Dyma leoliad y conclafau (cymanfaoedd cardinaliaid) sydd yn dewis Pab newydd, ond mae'r capel yn bennaf yn enwog am ei ffresgoau gan Michelangelo, a chaiff eu hystyried yn rai o gampweithiau'r Dadeni.

Mae'r capel yn dwyn enw Pab Sixtus IV, ag adnewyddodd y capel rhwng 1477 and 1480. Ar yr adeg yma gwahoddwyd yr arlunwyr Pietro Perugino, Sandro Botticelli, Pinturicchio, Domenico Ghirlandaio a Cosimo Rosselli i addurno'r muriau â golygfeydd o fywydau Moses a'r Iesu a phortreadau dychmygol o'r pabau cynnar. Rhwng 1508 a 1512, dan nawdd Pab Iŵl II (nai Sixtus), addurnodd Michelangelo y nenfwd â golygfeydd o lyfr Genesis (yn enwocaf oll, Duw yn creu Adda), ynghyd â ffigyrau proffwydi'r Hen Destament, siblïaid yr Henfyd a chyndadau Crist. Yn hwyrach, rhwng 1535 a 1541, dychwelodd Michelangelo i beintio'r ffresgo Dydd y Farn ar wal yr allor, ar gyfer y pabau Clement VII a Pawl III. Mae'r addurniadau felly yn ymgais i ddangos holl ddigwyddiadau pwysicaf hanes y greadigaeth yn ôl y Beibl. Er nad ydynt yn addurniadau parhaol, mae cyfres o dapestrïau gan Raffael yn dangos bywydau'r saint Pedr a Paul (o lyfr yr Actau), a'u comisiynwyd gan Pab Leo X, yn atgyfnerthu'r syniad hyn.