Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Teml Salt Lake, Salt Lake City, Utah

Enwad Cristnogol yw Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf (Saesneg: The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints); adnabyddir ei dilynwyr fel Mormoniaid.

Sefydlwyd Mudiad Seintiau'r Dyddiau Diwethaf gan Joseph Smith yn nhalaith Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau yn 1830. Wedi llofruuddiaeth Joseph Smith, symudodd carfan o'i ddilynwyr tua'r gorllewin dan arweiniad Brigham Young, a sefydlasant ddinas Salt Lake City yn yr hyn sy'n awr yn dalaith Utah. Yno y mae canolfan yr eglwys, gyda changhennau ar draws y byd. Amcangyfrifwyd fod ganddi 13,824,854 o aelodau yn 2009.

Cruz template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.