Joseph Smith

Oddi ar Wicipedia
Joseph Smith
Ganwyd23 Rhagfyr 1805 Edit this on Wikidata
Sharon, Vermont Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mehefin 1844 Edit this on Wikidata
Carthage, Illinois Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Emery Collegiate Institute Edit this on Wikidata
Galwedigaethproffwyd, gwleidydd, diwinydd, necromancer Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadNapoleon I, Sidney Rigdon, Oliver Cowdery Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnnibynnwr, Council of Fifty Edit this on Wikidata
TadJoseph Smith, Sr. Edit this on Wikidata
MamLucy Mack Smith Edit this on Wikidata
PriodEmma Smith, Eliza Maria Partridge Lyman, Eliza R. Snow, Zina D. H. Young, Emily Dow Partridge, Lucinda Morgan Harrisová, Helen Mar Kimball, Sarah Ann Whitney Edit this on Wikidata
PlantJulia Murdock Smith, Joseph Smith III, Alexander Hale Smith, David Hyrum Smith Edit this on Wikidata
PerthnasauJesse N. Smith Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://josephsmith.net, https://www.josephsmithpapers.org/ Edit this on Wikidata
llofnod

Sefydlydd Mudiad Saint y Dyddiau Diwethaf oedd Joseph Smith, Jr. (23 Rhagfyr 180527 Mehefin 1844), a elwir hefyd yn Formoniaeth. Roedd yn ffigwr crefyddol a gwleidyddol o bwys yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 1830au a'r 1840au. Ym 1827, dechreuodd Smith gasglu dilynwyr crefyddol wedi iddo ddweud fod angel wedi dangos set o blatiau aur iddo yn disgrifio hanes Iesu i bobloedd brodorol yr Amerig. Ym 1830, cyhoeddodd Smith Llyfr Mormon, sef yr hyn a honai ei fod yn gyfieithiad o'r platiau hynny, a'r un flwyddyn sefydlwyd Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf.

Bu Smith yn byw yn Kirkland, Ohio, trwy ran helaeth y 1830au, a dyma lle arhosodd pencadlys yr eglwys hyd iddo gael ei ysgogi gan gost adeiladu teml fawr, methiant arianol, a gwrthdaro gyda aelodau oedd wedi eu di-affeithio i gasglu anheddiad Saint y Dyddiau Diwethaf ym Missouri. Yno, dwysáodd y tensiwn rhwng y Mormoniaid ac eraill gan arwain at Ryfel Mormon 1838. Wedi hyn, symudodd Smith a'i ddilynwyr i Nauvoo, Illinois, lle dechreuont adeiladu ail deml gyda chymorth bobl o Ewrop oedd newydd gael eu trosi i'r grefydd. Wedi iddo gael ei gyhuddo o ymarfer amlwreicaeth, ac o geisio creu theocrataeth, annogodd Smith ataliad papur newydd a oedd wedi cyhoeddi'r cyhuddiadau yn ei erbyn, gan arwain at ei lofruddiaeth gan dorf o rhai nad oedd yn Formoniaid.

Mae dilynwyr Smith yn ystyried ei fod yn broffwyd, ac wedi canoneiddio rhai o'i ddatguddiadau fel ysgrifau sanctaidd cyfwerth â'r Beibl. Mae ei gymun yn cynnwys sawl enwad crefyddol; y mwyaf o'r rheiny yw Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf, sydd â miliynau o ymlynwyr.[1]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. "Adherents.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-04. Cyrchwyd 2009-06-16.