Scientoleg

Oddi ar Wicipedia

Corff o gredoau ac ymarferion cysylltiedig a grewyd gan yr awdur ffuglen wyddonol Americanaidd L. Ron Hubbard yw Scientoleg[1] neu Seientoleg.[2] Y prif sefydliad sy'n hyrwyddo Scientoleg yw Eglwys Scientoleg, mudiad hierarchaidd a sefydlwyd gan Hubbard, a gelwir grwpiau annibynnol sy'n defnyddio deunyddiau Hubbard yn y Parth Rhydd (Free Zone). Datblygodd Hubbard ddysgeidiaeth Scientoleg ym 1952 i olynu ei system hunangymorth gynt, Dianetics. Yn hwyrach disgrifiodd Hubbard Scientoleg fel "athroniaeth grefyddol gymhwysol" a sail am grefydd newydd. Mae athrawiaeth Scientoleg yn cynnwys archwilio (auditing), athroniaeth o adferiad ysbrydol a "phuredigaeth", ac yn ymdrin â phynciau megis moeseg, addysg, a rheolaeth.

Mae Scientoleg wedi derbyn cryn feirniadaeth yn ystod ei hanes gan rai sy'n ei gweld fel cwlt yn hytrach na mudiad crefyddol ac am ymatebion yr Eglwys i'w beirniaid, a ddisgrifir yn ddiegwyddor gan rai.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Crefydd: Scientoleg. BBC Cymru'r Byd. Adalwyd ar 8 Medi, 2008.
  2. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1222 [scientology].
Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.