Glöyn byw
| Gloynnod byw | |
|---|---|
| Llwydfelyn gwelw | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera (rhan) |
| Teuluoedd | |
|
Uwchdeulu Hedyloidea |
|
- Am restr o löynod byw gweler yma. Am restr o dros 1,050 o erthyglau Cymraeg ar wyfynod a gloynnod byw, gweler yma.
Pryf gydag adenydd lliwgar sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn byw (hefyd: pili-pala, iâr fach yr haf neu blyfyn bach yr haf). Wedi deor o'i ŵy mae glöyn byw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Mae'r glöyn byw yn dod allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau.
A- Adain flaen B- Teimlydd C- Llygad cyfansawdd D- Sugnydd E- Thoracs F- Coes G- Abdomen H- Adain ôl I- Cynffon
Mewn ymchwiliad gan NERC (Natural Environment Research Council) yn 2004 datgelwyd fod gostyngiad o 71% wedi bod yn niferoedd y gloynnod byw yng ngwledydd Prydain rhwng 1983 a 2003.[1]
Cynnwys |
Rhywogaethau yng Nghymru[golygu]
Un o brif diriogaethau'r glöyn byw yng Ngogledd Cymru ydy Craig Euarth: rhwng Craig-adwy-wynt a Phwllglas 4 a hanner cilometr i'r de o Ruthun (Rhif cyfeirnod map OS Map: SS 122 542) lle gwelir 32 allan o'r 34 mathau sydd yng ngogledd Cymru.[2]
Mae rhywogaethau'r glöyn byw a'r gwyfyn a welir yng Nghymru yn cynnwys:
- Llwyfwyfyn brith (Cosmia diffinis: White-spotted pinion)
- Britheg arian (Argynnis paphia: Silver-washed Fritillary)
- Britheg frown (Argynnis adippe: High brown fritillary)
- Britheg y gors (Euphydryas aurinia aurinia: Marsh fritillary)
- Brithribin du (Satyrium pruni: Black Hairstreak)
- Brithribin brown (Thecla betulae: Brown hairstreak)
- Britheg berlog (Boloria euphrosyne: Pearl-bordered Fritillary)
- Gweirlöyn brych (Pararge aegeria: Speckled Wood)
- Gwyfyn arennau disglair (Polia bombycina: Pale shining brown)
- Clai smotyn (Xestia rhomboidea: Square-spotted clay)
- Cliradain Gymreig (Synanthedon scoliaeformis: Welsh clearwing)
- Coeswyntyll gyffredin (Pechipogo strigilata: Common fan-foot)
- Brychan pennau saethau (Rheumaptera hastata: Argent and sable)
- Mantell goch (Vanessa atalanta: Red Admiral)
- Glesyn bach ?
- Glesyn cyffredin (Polyommatus icarus: Common Blue)
- Glesyn serennog (Plebejus argus: Silver-studded blue)
- Glesyn y celyn (Celastrina argiolus: Holly Blue)
- Gwyn bach (Pieris rapae: Small White)
- Gweirlöyn mawr y waun (Coenonympha tullia: Common Ringlet)
- Glöyn mawr gwyn (Pieris brassicae: Large White)
- Trilliw bach (Aglais urticae: Small Tortoiseshell)
- Rhwyll ymylog (Heliophobus reticulata: Bordered gothic)
- Gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul (Hemaris tityus: Narrow-bordered bee hawkmoth)
- Gwyfyn brith (Eustroma reticulata: Netted carpet moth)
- Crych tonnog (Hydrelia sylvata: Waved carpet)
- Ton sidan (Idaea dilutaria: Silky wave)
- Cleddwyfyn cyffredin (Xylena exsoleta: Sword-grass)
- Mantell dramor (Vanessa cardui: Painted Lady)
- Isadain felen loerol (Noctua orbona: Lunar yellow underwing)
- Rhisglyn y morfa (Morwyn wregysog?) (Lycia zonaria: Belted beauty)
- Mantell paun (Inachis io: Peacock)
- Trwynog yr hopys (Hypena rostralis: Buttoned snout)
- Uwchadain oren (Jodia croceago: Orange upperwing)
- Gwensgod fawr (Mythimna turca: Double line)
Cylchred bywyd[golygu]
Oriel luniau[golygu]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Natural Environment Research Council, 2004.
- ↑ Gwefan Butterfly Conservation; adalwyd 27 Awst 2012