Glöyn cynffon gwennol rhesog
| Papilio glaucus | |
|---|---|
| Gwryw | |
| Benwy | |
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Papilionidae |
| Genws: | Papilio |
| Rhywogaeth: | P. glaucus |
| Enw deuenwol | |
| Papilio glaucus Linnaeus, 1758 |
|
| Cyfystyron | |
|
|
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn cynffon gwennol rhesog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gloynnod cynffon gwennol rhesog; yr enw Saesneg yw Tiger Swallowtail, a'r enw gwyddonol yw Papilio glaucus.[1] Gogledd America yw ei diriogaeth.
Mae i'w weld yn hedfan yn y gwanwyn, yr haf a'r hydref a gall fagu dau neu dri swp o wyau. Mae hyd ei adennyd rhwng 7.9 i 14 centimetr (3 i 5.5 modf).
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Cynnwys |
Bwyd [golygu]
Ar deuluoedd y planhigion Magnoliaceae a'r Rosaceae mae'n dodwy ei wyau ac mae'r siani flewog yn tyfu i fod yn 5.5 centimetr (2.2 modf).
Cyffredinol [golygu]
Wedi deor o'i ŵy mae'r glöyn cynffon gwennol rhesog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.