Gwyn mawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pieris brassicae
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Pieridae
Llwyth: Pierini
Genws: Pieris
Rhywogaeth: P. brassicae
Enw deuenwol
Pieris brassicae
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron
  • Papilio brassicae Linnaeus, 1758

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yn y teulu Pieridae yw gwyn mawr, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion mawr (-ion); yr enwau Saesneg arni yw Large White neu Cabbage White, a'r enw gwyddonol yw Pieris brassicae.[1][2] Mae lled ei adenydd yn 5 i 6.5 cm.

Tiriogaeth[golygu]

Cynefin y P. brassicae: Dojran, Macedonia.

Mae'r glöyn byw gwyn mawr yn gyffredin iawn drwy Ewrop, gogledd Affrica ac Asia ac i'w weld fel arfer mewn caeau, gweiriau a pharciau. Yn gymharol ddiweddar mae wedi ymsefydlu yn ne Affrica.[3][4][5] Mae'n gryf o ran ei ehediad a daw nifer i wledydd Prydain o'r cyfandir pob haf. Mae'n bosibl ei fod yn dechrau ymsefydlu Efrog Newydd ble caiff ei ystyried fel pla.

Gwryw o Himachal Pradesh, India

Bwyd a chylched bywyd[golygu]

Mae'r fenyw'n dodwy rhwng 20 - 100 o wyau ar un o blanhigion teulu'r bresych a'r ysgewyll, ac o'r herwydd mae garddwyr yn ei chasáu! Melynwyrdd ydy lliw'r siani flewog, gyda llinellau melyn arni a smotiau duon ac fel arfer mae llu ohonyn nhw'n tyrru at ei gilydd i wledda ar y dail. Mae'n bosib mai cemegolion yn eu cyrff sy'n rhoi blas drwg yng ngheg ei helwyr e.e. y wenynen Apanteles glomeratus; mathau o glucosinolates (olew mwstad) ydyn nhw, a wneir yn ei chrombil, er bod rhai naturiaethwyr bellach yn credu nad yw hynny'n wir.

Melynwyrdd, hefyd, ydy lliw'r chwiler, gyda smotiau duon arni, ac fel chwiler mae'n treulio'r gaeaf yn morffio'n araf ac yn gaeafgysgu. Ceir dwy genhedlaeth y flwyddyn, y cyntaf ym Mai a Mehefin a'r ail yn Awst.

Mathau tebyg[golygu]

Mae'r glöyn byw gwyn mawr yn hynod o debyg i'r Glöyn byw gwyn bach (Pieris rapae), Pieris canidia, a'r Pieris deota.

Oriel o luniau[golygu]

Cyffredinol[golygu]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyn mawr yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu]