Gwyfyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am y ffilm Gymraeg gweler Gwyfyn (ffilm).
Gwyfynod
Ymerawdwr (Saturnia pavonia)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera (rhan)
Teuluoedd

tua 120

Pryfed sy'n perthyn i'r urdd Lepidoptera ynghyd â'r gloÿnnod byw yw gwyfynod. Mae tua 160,000 o rywogaethau o wyfynod - deg gwaith mwy nag o loynnod byw.[1] Credir fod miloedd o rywogaethau'n dal heb eu hadnabod a'u henwi. Mae'r mwyafrif o wyfynod yn nosol.

Dau wyfyn o fath Teigr y benfelen yn cyplysu; Seland Newydd.

Does 'na ddim llawer o wahaniaeth rhwng gwyfyn a glöyn byw; weithiau defnyddir y gair "heterocera" am y gwyfyn a "rhopalocera" am y glöyn byw. Ond geiriau cyffredinol, a geir ar lafar ydy'r rhain yn hytrach na dosbarthiad gwyddonol. Gwyddom erbyn heddiw mai grŵp bychan ydy'r glöyn byw sydd wedi esblygu o fewn grŵp ehangach y gwyfyn, hynny yw o fewn "Ditrysia" y "Neolepidoptera".[2]

Cyfeiriadau [golygu]

Gweler hefyd [golygu]