Cath
| Cath | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Carnivora |
| Teulu: | Felidae |
| Genws: | Felis |
| Rhywogaeth: | F. silvestris |
| Isrywogaeth: | F. s. catus |
| Enw trienwol | |
| Felis silvestris catus (Linnaeus, 1758) |
|
| Cyfystyron | |
|
Felis catus |
|
Mae'r gath (felis catus) yn rhywogaeth famalaidd, gigysol. Mae'n anifail anwes a fegir am ei chwmnïaeth, yn aml, a'i gallu i hela pryf a nadroedd a hynny ers o leiaf 9,500 o flynyddoedd.[1]
Mae'n heliwr celfydd, a cheir dros fil o wahanol fathau. Gellir ei hyfforddi i ufuddhau i orchmynion syml. Mae rhai cathod penodol yn enwog am allu gweithio systemau mecanyddol syml fel dyrnau drysau. Mae cathod yn defnyddio nifer o wahanol fathau o synau ac iaith-gorfforol wrth gyfathrebu. Gyda 600 miliwn o gathod fel anifeiliad anwes ledled y byd, cathodd, mae'n bosib, yw'r anifail anwes mwyaf poblogaidd yn y byd.[2]
Credir mai yn Aifft Hynafol y cafodd y cathodd cyntaf eu hanwesu, ond fe ddarganfuwyd mewn astudiaeth yn 2007 mai yn y Dwyrain Canol - a hynny dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae'r Cymry yn hoff o weld cathod du eu lliw gan eu bont yn dod â lwc dda.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ "Y gath anwes hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghyprus". National Geographic News. 2004-04-08. http://news.nationalgeographic.com/news/2004/04/0408_040408_oldestpetcat.html. Adalwyd 2007-03-06.
- ↑ "Amrwyiaeth cathod gan National Geographic". MySpaceTV. http://myspacetv.com/index.cfm?fuseaction=vids.individual&videoid=35944126. Adalwyd 2008-11-22.