Treiglad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Newid mewn cytsain ar ddechrau gair yn ôl ei safle neu ei swyddogaeth yw treiglad. Mae treigladau'n nodweddiadol o'r ieithoedd Celtaidd, ond maent yn digwydd mewn sawl iaith arall fel Fula (iaith yng ngorllewin Affrica), Dholuo o Cenia a Nivkh (iaith o Siberia) a phob un o'r ieithoedd Celtaidd.

Mae gan yr Ieithoedd Goidelig (Gaeleg yr Alban, Manaweg a Gwyddeleg) ddau dreiglad; tri sydd i'r Gymraeg a Chernyweg ac mae gan y Llydaweg (a'r Frythoneg) bedwar math. Drwy'r defnydd o'r treiglad, ym mhob un o'r ieithoedd Celtaidd, gallwn ddeall rhyw'r person y cyfeirir ato; er nghraifft yn y Gymraeg, pan ddywedir, "Mae ei chwch yn y porthladd" gwyddwn mai merch bia'r cwch, nid dyn.[1]


Treigladau yn Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cytsain cyntaf rhai geiriau yn y Gymraeg yn newid pan fônt yn dilyn geiriau fel 'i', 'yn' neu 'a'; gallant hefyd newid oherwydd cyd-destun gramadegol y frawddeg. Gall gair fel 'gardd' newid i 'ardd': h.y. mae'r 'g' yn diflannu, sy'n peri i'r cymal fod yn fwy llyfn, yn llai clogyrnaidd o ran sain; mae 'Tyrd i'th ardd! yn llifo'n fwy llyfn na 'Thyrd i dy gardd!'

Mae tri phrif dreiglad gan y Gymraeg, sef y treiglad meddal, y treiglad trwynol, a'r treiglad llaes ac mae'r llythyren a dreiglir bron yn ddieithriad yn meddalu gydag enwau benywaidd neu wrth gyfeirio at y ferch. Er enghraifft, pan fo'r gair 'coes' yn newid i 'fy nghoes' mae 'sain' caled yr 'ec' yn tawelu, neu'n meddalu gan droi'n 'ng' gyddfol.[2]

Treiglad meddal[golygu | golygu cod y dudalen]

Treiglad mwyaf cyffredin y Gymraeg yw'r treiglad meddal, sy'n digwydd i'r llythrennau dilynol (ar ôl "i", er enghraifft);

  • B → F; i Fangor
  • C → G; i Gaerdydd
  • D → Dd; i Ddolgellau
  • G yn disgyn; i GWent
  • Ll → L; i Langollen
  • M → F; i Fynwy
  • P → B; i Bont y Pŵl
  • Rh → R; i Radyr
  • T → D; i Dredegar

Treigladau meddal yn yr ieithoedd Celtaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r tabl yn dangos gweithrediadau treigladau meddal yn yr ieithoedd Celtaidd. Oherwydd bod gan bob iaith orgraff ei hun, mae'r treigladau wedi eu trefnu yn ôl eu seiniau. Mae hyn yn ei wneud yn haws i gymharu'r ieithoedd. Er enghraifft, mae çh ym Manaweg yn gyfartal â t (fain) yn yr ieithoedd Gaelaidd eraill.

Mae'r gell lwyd yn dangos bod dim treiglad meddal yn yr iaith honno am y llythyren honno.

Treigladau meddal yn yr ieithoedd Celtaidd
  Cytsain wreiddiol Cytsain wedi'i threiglo
Ffurf gysefin Sain (GSR) Manaweg Gaeleg yr Alban Gwyddeleg Cymraeg Cernyweg Llydaweg
p fain /pʲ/ /pʲ//fʲ/
Sillafiad pph
p lydan /pˠ/ /pˠ//fˠ/
Sillafiad pph
p /p/ /p//f/ /pʰ//f/ /p//b/ /p//b/ /p//b/
Sillafiad pph pph pb pb pb
t fain /tʲ/ /ʧ//h/, /ʧ/ /tʲʰ//h/, /hj/ /tʲ//h/
Sillafiad çhh, çh tth tth
t lydan /tˠ/ /tˠ//h/, /t/ /t̪ʰ//h/ /tˠ//h/
Sillafiad t, thh, t, th tth th
t /t/ /t//d/ /t//d/ /t//d/
Sillafiad td td td
ch
çh
/ʧ/ gweler
t fain
/ʧ//ʤ/
Sillafiad chj
c fain
k fain
/c/ /c//ç/ /cʰ//çʰ/ /c//ç/
Sillafiad c, kch cch cch
c lydan
k lydan
/k/ /k//x/ /kʰ/, /xk//x/ /k//x/
Sillafiad c, kch cch cch
c /k/ /k//g/ /k//g/ /k//g/
Sillafiad cg kg kg
b fain /bʲ/ /b//v/ /pj/, /jp//vj/ /bʲ//vʲ/
Sillafiad bv bbh bbh
b lydan /bˠ/ /bw/, /b//w/ /p//v/ /bˠ//w/
Sillafiad bw, bw bbh bbh
b /b/ /b//v/ /b//v/ /b//v/
Sillafiad bf bv bv
d fain /dʲ/ /ʤ//j/, /ʤ/ /tʲ//j/ /dʲ//ʝ/
Sillafiad jy, j ddh ddh
d lydan /dˠ/ /dˠ//ɣ/, /d/ /t̪//ɣ/ /d̪ˠ//ɣ/
Sillafiad dgh, d ddh ddh
d /d/ /d//ð/ /d//ð/ /d//z/
Sillafiad ddd ddh dz
j /ʤ/ gweler
d fain
Sillafiad
g fain /gʲ/ /gʲ//y/ /kʲ//ʝ/ /ɟ//j/
Sillafiad giyi, ghi ggh ggh
g lydan /gˠ/ /gˠ//ɣ/ /kˠ//ɣ/ /gˠ//ɣ/
Sillafiad ggh ggh ggh
g gron /g/ /g//w/
Sillafiad gw
g anghron /g/ /g/dim
Sillafiad gdim
g /g/ /g/dim /g//x/
Sillafiad gdim gc'h
gw /gw/ /gw//w/ /gw//w/ /gʷ//w/
Sillafiad gww gww gww
m fain /mʲ/ /m//v/ /mj//vj/ /bʲ//vʲ/
Sillafiad mv mmh mmh
m lydan /mˠ/ /mw/, /m//w/ /m//v/ /mˠ//w/
Sillafiad mw, mw mmh mmh
m /m/ /m//v/ /m//v/ /m//v/
Sillafiad mf mv mv
f fain /fʲ/ /f/dim, /f/ /f/, /fj/dim /fʲ/dim
Sillafiad fdim, f ffh ffh
f lydan /fˠ/ /fw//w/, /fw/ /f/dim /fˠ/dim
Sillafiad fww, fw ffh ffh
s fain /sʲ/ /ʃ//h/, /ʧ/, /ʃ/ /ʃ//h/, /hj/ /ʃ//h/, /t/
Sillafiad shh, çh, sh ssh ssh, ts
s lydan /sˠ/ /s//h/, /t/ /s//h/ /sˠ//h/, /t/
Sillafiad sh, t ssh ssh, ts
ll /ɬ// /ɬ///l/, /ɬ/
Sillafiad lll, ll
r fain /rˠ/ /rˠ//ɾʲ/
Sillafiad r
r lydan /rˠ/ /rˠ//ɾ/
Sillafiad r
rh /r̥/ /r̥//r/, /r̥/
Sillafiad rhr, rh
l fain /lʲ/ /ʎ//l/
Sillafiad l
l lydan /lˠ/ /l̪ˠ/
Sillafiad l
n fain /nʲ/ /ɲ//ɲ/
Sillafiad n
n lydan /nˠ/ /n̪ˠ//n/
Sillafiad n

Treiglad trwynol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr ail dreiglad yw'r treiglad trwynol, sy'n digwydd i'r llythrennau dilynol (ar ôl "yn" er enghraifft);

  • B → M; ym Marri
  • C → Ngh; yng Nghaerdydd
  • D → N; yn Nolgellau
  • G → Ng; yng Ngrug
  • P → Mh; ym Mhont y Pridd
  • T → Nh; yn Nhregaron

Treigladau trwynol yn yr ieithoedd Celtaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r tabl yn dangos gweithrediadau treigladau trwynol yn yr ieithoedd Celtaidd. Oherwydd bod gan bob iaith orgraff ei hun, mae'r treigladau wedi eu trefnu yn ôl eu seiniau. Mae hyn yn ei gwneud yn haws cymharu yr ieithoedd. Er enghraifft, mae çh Manaweg yn gyfartal â t (fain) yn yr ieithoedd Gaelaidd eraill. Mae'r gell lwyd yn dangos bod dim treiglad meddal yn yr iaith honno am y llythyren honno.

Treigladau llaes yn yr ieithoedd Celtaidd
  Cytsain wreiddiol Cytsain wedi'i threiglo
Ffurf gysefin Sain (GSR) Manaweg Gaeleg yr Alban Gwyddeleg Cymraeg Cernyweg Llydaweg
p fain /pʲ/ /pʲ//bʲ/
Sillafiad pbp
p lydan /pˠ/ /pˠ//bˠ/
Sillafiad pbp
p /p/ /p//b/ /p//m̥/
Sillafiad pb pmh
t fain /tʲ/ /ʧ//j/ /tʲ//dʲ/
Sillafiad çhj tdt
t lydan /tˠ/ /tˠ//dˠ/ /tˠ//dˠ/
Sillafiad t, thd tdt
t /t/ /t//n̥/
Sillafiad tnh
ch
çh
/ʧ/ edrychwch ar
t fain
Sillafiad
c fain
k fain
/c/ /c//ɟ/ /c//ɟ/
Sillafiad c, kg cgc
c lydan
k lydan
/k/ /k//ŋ̊/ /k//g/
Sillafiad c, kg cgc
c /k/ /k//ŋ̊/
Sillafiad cngh
b fain /bʲ/ /b//m/ /bʲ//mʲ/
Sillafiad bm bmb
b lydan /bˠ/ /b//m/ /bˠ//mˠ/
Sillafiad bm bmb
b /b/ /b//m/
Sillafiad bm
d fain /dʲ/ /ʤ//nj/ /dʲ//nʲ/
Sillafiad jny dnd
d lydan /dˠ/ /dˠ//nˠ/, /d/ /d̪ˠ//n̪ˠ/
Sillafiad dn dnd
d /d/ /d//n/
Sillafiad dn
j /ʤ/ edrychwch ar
d fain
Sillafiad
g fain /gʲ/ /gʲ//ŋ/ /ɟ//ɲ/
Sillafiad gng gng
g lydan /gˠ/ /gˠ//ŋˠ/ /g//ŋ/
Sillafiad gng gng
g /g/ /g//ŋ/
Sillafiad gng
f fain /fʲ/ /f//v/ /fʲ//vʲ/
Sillafiad fv fbhf
f lydan /fˠ/ /fw//hw/, /w/ /fʲˠ//w/
Sillafiad fww fbhf

Treiglad llaes[golygu | golygu cod y dudalen]

Y trydydd treiglad yw'r treiglad llaes, sy'n digwydd i'r llythrennau dilynol (ar ôl "ei" er enghraifft);

  • C → Ch; ei char hi
  • P → Ph; ei phwrs hi
  • T → Th; ei thocyn hi

Treigladau llaes yn yr ieithoedd Celtaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r tabl yn dangos gweithrediadau treigladau llaes yn yr ieithoedd Celtaidd. Oherwydd bod gan bob iaith ei horgraff ei hun, mae'r treigladau wedi eu trefnu yn ôl eu seiniau. Mae hyn yn ei gwneud yn haws cymharu yr ieithoedd. Er enghraifft, mae çh Manaweg yn gyfartal â t (fain) yn yr ieithoedd Gaelaidd eraill. Mae'r gell lwyd yn dangos bod dim treiglad meddal yn yr iaith honno am y llythyren honno.

Treigladau llaes yn yr ieithoedd Celtaidd
  Cytsain wreiddiol Cytsain wedi'i threiglo
Ffurf gysefin Sain (GSR) Manaweg Gaeleg yr Alban Gwyddeleg Cymraeg Cernyweg Llydaweg
p /p/ /p//f/ /p//f/ /p//f/
Sillafiad pph pf pf
t /t/ /t//θ/ /t//θ/ /t//z/
Sillafiad tth tth tz
c
k
/k/ /k//x/ /k//h/ /k//x/
Sillafiad cch kh kc'h

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.academia.edu; adalwyd 31 Ionawr 2015
  2. [http://homes.chass.utoronto.ca/~klausner/MUT.html Prifysgol Toronto; adalwyd 31 Ionawr 2015