Manaweg

Oddi ar Wicipedia
Manaweg
yn Ghaelg, yn Ghailck
Siaredir yn Ynys Manaw
Cyfanswm siaradwyr Bu farw yn iaith gyntaf ers 1974; fe'i hadfywiwyd gyda rhyw gant o siaradwyr,[1][2] gan gynnwys nifer fechan o blant sydd bellach yn siaradwyr brodorol,[3]
a 1,823 o bobl (2.2%) yn dweud bod rhyw ddealltwriaeth o'r iaith ganddynt hwy[4] (2011)
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn Baner Ynys Manaw Ynys Manaw
Rheoleiddir gan Coonseil ny Gaelgey (Cyngor y Fanaweg)
Codau ieithoedd
ISO 639-1 gv
ISO 639-2 glv
ISO 639-3 glv
Wylfa Ieithoedd

Iaith Geltaidd gynhenid Ynys Manaw yw Manaweg (Manaweg: Gaelg/Gailck). Mae'n perthyn yn agos i ieithoedd Celtaidd Iwerddon a'r Alban - Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban - fel rhan o'r is-deulu ieithyddol Celteg Q neu Goedeleg (sydd gyda'r Frythoneg yn rhan o deulu mwy, sef Celteg Ynysig.

Hanes[golygu | golygu cod]

Credir i'r Fanaweg gael ei chyflwyno i'r ynys gan ymsefydlwyr o Iwerddon yn y 4g neu'r 5ed O.C. Ymsefydlai llwythi eraill o Iwerddon mewn rhannau gorllewinol o Gymru a'r Alban yn yr un cyfnod. Mae milewniwm gyntaf ei bodolaeth yn dywyll. Does dim llenyddiaeth o'r cyfnod wedi goroesi a rhaid dibynnu ar dystiolaeth enwau lleoedd a phersonol am ein gwybodaeth. Dim ond yn y 18g a'r 19eg y daw'r dystiolaeth ysgrifenedig gyntaf i'r golwg (ac eithrio ambell arysgrifiad a chofnod byr) ar ffurf cyfieithiadau crefyddol, geiriaduron a gramdegau, yn ogystal â cherddi llafar a baledi â'i gwreiddiau yn yr 16g efallai.

Daeth y Fanaweg i ben fel mamiaith fyw yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Bu farw siaradwr brodorol olaf y Fanaweg, Ned Maddrell, yn 1974, ond mae'r iaith wedi profi ychydig o adfywiad yn ddiweddar. Fe'i siaredir gan rai cannoedd o Fanawiaid - rhai sydd wedi dysgu'r iaith o ddiddordeb, a rhai o'u plant yn ogystal. Agorwyd yr ysgol Fanaweg gyntaf, y Bunscoill Ghaelgagh, yn 2001 a ceir darpariaeth meithrin dan nawdd sefydliad Mooinjer veggey. Yn ôl cyfrifiad 2011 mae 1,823 yn gallu ei siarad, ei darllen a'i hysgrifennu. n ôl yr adferwr iaith, Brian Stowell, dechreuodd yr adfywiad mewn Manaweg wedi i'r olaf o'r siaadwyr cynhenid farw yng nghanol yr 20g gan bod ganddyn nhw agwedd mor negyddol at yr iaith.[5]

Treigladau[golygu | golygu cod]

Siaradwr Manaweg
Mae arwyddion dwyieithog i'w gweld mewn llawer o lefydd, er enghraifft, Douglas. Sylwch fod enw Manaweg y dre, Doolish, wedi treiglo i Ghoolish.
Arwydd yn Doolish (Douglas)
Fan post yn Doolish, 2013

Fel pob iaith Celtaidd, ceir treigladau.[6] Mae ganddi ddau dreiglad: boggaghys (math o dreiglad meddal) a stronnaghys (math o dreiglad trwynol). Mae dau fath o boggaghys i'w gweld mewn sefyllfoedd gwahanol. Dydyn nhw ddim yn gweithio fel treigladau'r Gymraeg.

Dyma dreigladau Manaweg:

Treigladau Manaweg[7]
Llythyren wreiddiol Boggaghys Stronnaghys
Math cyntaf Ail fath
p /p/ ph /f/ ph /f/ b /b/
t, th /t/ h /h/ t, th /t/ d /d/
çh /tʃ/ h /h/ çh /tʃ/ j /dʒ/
c, k keyl /kʲ/ ch /ç/ ch /ç/ g /gʲ/
c, k lheean /k/ ch /x/ ch /x/ g /g/
b /b/ v /v/, /w/ v /v/, /w/ m /m/
bw /bw/ w /w/ w /w/ mw /mw/
d, dh /d/ gh /ɣ/ d /d/ n/n/
j /dʒ/ y /j/ j /dʒ/ n'y /nj/
g keyl /gʲ/ y, gh /j/ y, gh /j/ ng /ŋʲ/
g lheean /g/ gh /ɣ/ gh /ɣ/ ng /ŋ/
f /f/ (dim) (dim) v /v/
s /s/ h /h/ t/t/ s /s/
str /st/ tr /t/ tr /t/ str /st/
sl /sl/ l /l/ cl /kl/ sl /sl/
sn /sl/ n, sn /n/, /sn/ n, sn /n/, /sn/ sn /sn/
sh /ʃ/ h /h/ ç /tʃ/ sh /ʃ/
m /m/ v /v/, /w/ v /v/, /w/ m /m/
mw /mw/ w /w/ w /w/ mw /mw/
qu /kw/ wh /ʍ/ wh /ʍ/ qu /kw/

Geirfa[golygu | golygu cod]

Ymadroddau a geiriau[golygu | golygu cod]

Manaweg Ymadrodd agosaf
Gwyddeleg
Ymadrodd agosaf
Gaeleg yr Alban
Ymadrodd agosaf
Cymraeg
Moghrey mie Maidin mhaith Madainn mhath Bore da
Fastyr mie Tráthnóna maith Feasgar math Prynhawn da
Slane lhiat, Slane lhiu Slán leat, Slán libh Slàn leat, Slàn leibh Hwyl [iti, ichi]
Gura mie ayd, Gura mie eu Go raibh maith agat, Go raibh maith agaibh Tapadh leat, Tapadh leibh Diolch [iti, ichi]
baatey bád bàta cwch
barroose bus bus bws
blaa bláth blàth blodyn
booa buwch
cabbyl capall capall ceffyl
cashtal caisleán, caiseal caisteal castell
creg carraig carraig, creag carreg
eeast, yeeast iasc iasg pysgod
ellan oileán eilean ynys
gleashtan gluaisteán, carr càr car
kayt cat cat cathod
moddey madra, madadh madadh ci
shap siopa bùth siop
thie tigh, teach taigh
eean éan eun, ian aderyn
jees beirt, dís dithis dau, dwy; pâr
oik oifig oifis swydd
ushtey uisce uisge dŵr

Rhifau[golygu | golygu cod]

Manaweg Ymadrodd agosaf
Gwyddeleg
Ymadrodd agosaf
Gaeleg yr Alban
Ymadrodd agosaf
Cymraeg
(unnane)
un / nane
[n 1][n 2]
aon (a haon) / amháin aon un
daa / jees[n 3][n 4] dó, dhá / beirt / dís dà / dithis dau, dwy
tree[n 5] trí trì tri, tair
kiare[n 6] ceathair, ceithre ceithir pedwar, pedair
queig cúig còig pump
shey sia chwech
shiaght seacht seachd saith
hoght ocht (a hocht) ochd wyth
nuy naoi naoi naw
jeih deich deich deg
nane jeig, un jeig[n 7] aon déag aon deug unarddeg, un deg un
daa yeig[n 8][n 9] dó dhéag dà dheug deuddeg, un deg dau, un deg dwy
tree as feed[n 10] fiche trí trì air fhichead tri ar hugain, dau ddeg tri
nane-jeig as feed[n 11] triocha haon aon dheug air fhichead unarddeg ar hugain, tri deg un
tree as daeed[n 12] daichead trí dà fhichead is a trì degain a thri, pedwar deg tri
tree feed as tree[n 13] seasca trí trì fhichead is a trì trigain a thri, chwe deg tri
kiare feed as tree[n 14] ochtó trí ceithir fhichead is a trì pedwar ugain a thri, wyth deg tri
keead as daa-yeig as feed[n 15] céad triocha dó ceud dà dheug air fhichead cant a deuddeg ar hugain, cant tri deg dau

Nodau am rifau[golygu | golygu cod]

  1. Unnane sydd y ffurf lawn. Fel arfer, mae un i'w weld efo enwau, a mae un i'w weld ar ei ben ei hun neu efo rhagenwau.
  2. Mae treiglad boggaghys yr ail fath ar ôl un.
  3. Mae treiglad boggaghys yr math cyntaf ar ôl daa. Mae jeig yn treiglo i yeig hefyd.
  4. Dydy "daa" a "jees" ddim yn ffurfiau benwyaidd a gwrywaidd fel dau a dwy. Mae "daa" i'w weld efo enwau, a mae "jees" i'w weld ar ei ben ei hun neu efo rhagenwau. Er enghraifft, dywedwyd "nane, jees, tree, kiare, queig" am rifo, neu "honnick mee jees jeu" ("welais i ddau ohonyn"); ond "ta daa vac oc" (mae ganddynt dau fab).
  5. Does dim ffurfiau benywaidd / gwrywaidd.
  6. Does dim ffurfiau benywaidd / gwrywaidd.
  7. Mae'r enw i'w weld rhwng un a jeig, a bydd ganddo fo treiglad boggaghys yr ail fath. Er enghraifft, un chayt jeig yn lle un deg un o gathod neu unarddeg cathod.
  8. Mae'r enw i'w weld rhwng daa a yeig, a bydd ganddo fo treiglad boggaghys y math cyntaf. Er enghraifft, daa chayt yeig yn lle dwy gath ar ddeg neu deuddeg cath.
  9. Does dim ffurf *jees jeig.
  10. Mae'r enw i'w weld rhwng tree a feed.
  11. Mae'r enw i'w weld rhwng nane a jeig.
  12. Mae'r enw i'w weld rhwng tree a daeed.
  13. Mae'r enw i'w weld rhwng feed a tree.
  14. Mae'r enw i'w weld rhwng feed a tree.
  15. Mae'r enw i'w weld rhwng keead a as.

Mae ffurfiau lluosog i'w weld ar ôl llawer o rifau.

  • Does dim ffurf lluosog ar ôl un neu daa
  • Does dim ffurf lluosog ar ôl lluosrifau o 20+ (yn cynnwys 100, 1000 ac ati)
  • Fel arfer, does dim ffurf lluosog ar ôl mesurau: e.e. arian ac amser.

Arddodiaid[golygu | golygu cod]

Fel yn y Gymraeg, gellir rhedeg arddodiaid Manaweg yn ôl y person. Mae ganddynt ansoddeiriau meddianol hefyd. Dyma ffurfiau ec ‘gan’, a'r ansoddeiriau meddianol yn italaidd:

Ffurfiau ec
  Unigol Lluosog
Person cyntaf aym
ayms
ain
ainyn
Ail berson ayd
ayds
eu
euish
Trydedd person Gwrywaidd echey
echeysyn
oc
ocsyn
Benywaidd eck
ecksh
oc
ocsyn

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • G. Broderick, A Handbook of Late Spoken Manx. 3 cyfrol. (Llundain, 1984-86)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Anyone here speak Jersey?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-20. Cyrchwyd 2009-02-20.
  2. "Fockle ny ghaa: schoolchildren take charge". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-04. Cyrchwyd 2011-04-13.
  3. Documentation for ISO 639 identifier: glv
  4. Isle of Man Census Report 2011 Archifwyd 2013-11-05 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 21 Ionawr 2013.
  5. "Irish and Manx gaelic speakers discuss the Manx Gaelic revival". Sianel Youtube An Ghaeilge. 29 Mai 2011.
  6. Broderick 1984–86, 1:7–21; 1993, 236–39; Thomson 1992, 132–35
  7. Brian Stowell (1998). Y Coorse Mooar, 2

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Manaweg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Llydaweg ·Cernyweg ·Cymraeg |Gwyddeleg ·Manaweg ·Gaeleg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd