Bunscoill Ghaelgagh
Oddi ar Wicipedia
| Bunscoill Ghaelgagh | |
|---|---|
| Sefydlwyd | 2001 |
| Math | Ysgol gynrad Fanaweg |
| Cyfrwng iaith | Manweg |
| Pennaeth | Julie Matthews |
| Lleoliad | St John's, Ynys Manaw |
| Rhyw | cymysg |
| Gwefan | http://www.sch.im/bunscoill |
Ysgol gynradd cyfrwng Manaweg ym mhentref St John's ar Ynys Manaw yw Bunscoill Ghaelgagh (Cymraeg: ysgol gynradd Manaweg). Sefydlwyd yr ysgol yn wreiddiol yn 2001. Yn 2012, roedd 70 o ddisgyblion yn yr ysgol.[1] Ers 2011, dyma'r unig ysgol yn y byd ymhle addysgir plant drwy gyfrwng y Fanaweg yn unig sy'n caniatáu iddynt ddysgu'r iaith i ruglder.[2] Wedi iddynt gyrraedd oed gadael yr ysgol, gallant fynychu Ysgol Uwchradd QEII neu'r ysgol uwchradd agosaf yn y dalgylch, ymhle maent yn gallu astudio TGAU yn y Fanaweg o 12 oed.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) Manx School celebrates Isle of Man News - MTTV; 8 Mawrth, 2012
- ↑ "A Miscellany on the History, Culture and Language of the Isle of Man", Skeealyn Vannin, Journal of the Genealogical Society of Ireland, Cyf. 7, #2 (2006)
Dolenni allanol [golygu]
- (Manaweg) Wici Swyddogol
- (Saesneg) Honour for History-Making School, Isle of Man Today, 26 Ionawr 2006