Wicipedia
Oddi ar Wicipedia
Gwyddoniadur rhyngwladol, aml-ieithog a reolir gan y Wikimedia Foundation yw Wicipedia. Fis Awst 2008, roedd dros 2,500,000 o erthyglau yn y fersiwn Saesneg ac erbyn Mai 2009 roedd 2.8 miliwn. Roedd dros 21,600 o erthyglau yn y Wicipedia Cymraeg ym Mai 2009 ac roedd yn 60ed o ran safle ieithyddol â 5,500 o ddefnyddwyr cofrestredig.
Ailddechreuodd y Wicipedia Cymraeg ym mis Gorffennaf 2003 yn dilyn creu meddalwedd newydd i Wicipedia. Erbyn hyn ceir 25,196 o erthyglau ar y fersiwn Cymraeg. Ymhlith y fersiynau eraill o Wicipedia a geir, mae Catalaneg, Llydaweg a Gwyddeleg.
Dechreuodd y fersiwn Saesneg ym mis Ionawr 2001, a thros y pum mlynedd dilynol dechreuwyd fersiynau mewn dros 200 o ieithoedd.
Cynnwys |
[golygu] Nodweddion pwysig
Mae gan brosiect Wicipedia dair nodwedd bwysig, sy'n diffino ei le ar y We Fyd-Eang:
- Mae'n anelu at fod yn wyddoniadur.
- Mae'n wici, sy'n golygu y caiff unrhyw un ei olygu (gyda rhai cyfyngiadau).
- Mae'n brosiect cynnwys agored, sy'n defnyddio'r Drwydded Dogfen Rhydd GNU copyleft.
- Os ydych chi eisiau bod yn Wicipedwr, gweler ein tudalen Croeso i newydd-ddyfodiaid.
[golygu] Fandaliaeth
Mae "fandaliaeth" yn fater pwysig ar Wicipedia: sef hurt neu atgas i erthyglau'r gwyddoniadur. Mae erthyglau sydd wedi cael eu fandaleiddio yn cael eu gwrthdroi ac mae'n bosibl gwahardd y fandal.
[golygu] Polisïau
Mae cyfranogwyr Wicipedia yn dilyn ychydig o bolisïau sylfaenol.
- Yn gyntaf, gan fod amrywiaeth enfawr o gyfranwyr o bob athroniaeth, ac ar draws y byd, mae Wicipedia yn benderfynol o wneud pob erthygl mor ddiragfarn â phosibl. Yr amcan yw cyflwyno pob barn yn deg ar unrhyw destun.
- Yn ail, mae nifer o gonfensiynau wrth enwi erthyglau; er enghraifft, pan fo sawl enw yn bodoli, defnyddier yr un mwyaf cyffredin.
- Yn drydydd, dylai Wicipedwyr ddefnyddio tudalennau "sgwrs" i drafod newidiadau i'r testun, yn hytrach na thrafod y newidiadau ar y tudalennau eu hunain. Mae achosion sydd yn berthnasol i nifer o erthyglau yn gallu cael eu trafod yn Meta-Wikipedia neu'r rhestrau post.
- Yn bedwerydd, mae nifer o fathau o erthyglau sydd yn digalonnog, oherwydd dydy nhw ddim yn cyflwyno erthyglon gwyddioniadur. Er enghraifft, dydy erthyglon Wicipedia ddim yn ystyron geiriadur, ac mae rhoi defnydd ffynhonnell fel deddfau ac areithion yn cael ei gwgu arno.
- Yn bumed, mae'r gefnogaeth i nifer o reolau sydd wedi cael eu cynnig yn amrywio yng nghymuned Wicipedia. Y rheol a gefnogir yn bennaf yw: "Os yw rheolau yn gwneud i chi deimlo'n ofnus ac yn ddigalon ac yn gwneud i chi beidio cyfrannu i'r wici, anwybyddwch nhw yn gyfan gwbl a gwnewch eich busnes eich hun." Pan mae'r rheolau a gynigir yn cael eu torri, penderfynir ar y canlyniad fesul achos rhwng y Wicipedwyr os mae nhw'n dod mwy llym neu beidio.
[golygu] Personél
Mae Wicipedia wedi cael ei newid gan filoedd o bobl. Mae Wicipedia yn galw pobl sydd yn ei newid yn Wicipedwyr. Mae cyfanswm y newidiadau yn y fersiwn Saesneg wedi dyblu rhwng Ionawr 2002 a Ionawr 2003, o 1000 y dydd i 2000 y dydd.
Does dim prif newidiwr, fel y mae. Y ddau berson a sefydlodd Wicipedia yw Jimmy Wales (Prif Swyddog Gweithredol y cwmni bach rhyngrwyd Bomis Inc) a Larry Sanger. Yn y 13 mis cyntaf talwyd Sanger gan Bomis i weithio ar Wicipedia. Dywedwyd bod Sanger wedi cymryd rôl canolwr, yn gwneud penderfyniadau mewn amser o ddadlau poeth. Nid oedd hyn yn seiliedig ar awdurdod ffurfiol, ond gofynion y defnyddwyr. Daeth yr arian ar gyfer ei safle i ben, yn dilyn ei ymddeoliad yn Chwefror 2002. Mae gweithwyr Bomis, sydd wedi gweithio ar y gwyddionadur, yn cynnwys Tim Shell, un o gyd-sefydlwyr Bomis, a hefyd Jason Richey a Toan Vo.
Dywedodd Richard Stallman, yr ymgyrchydd dros meddalwedd di-dâl, fod sefydliad Wicipedia yn "newyddion cyffrous".
[golygu] Hanes
Mae Wicipedia'n bodoli ers y 10fed o Ionawr 2001, ac mae'r Wicipedia Cymraeg yn bodoli ers y 14eg o Orffennaf 2003.
[golygu] Meddalwedd a chaledwedd
UseModWiki, a ysgrifennwyd gan Clifford Adams ("Cyfnod I"), oedd y fersiwn o feddalwedd wici a ddefnyddid i gynnal Wicipedia yn wreiddiol. I gychwyn, roedd rhaid defnyddio CamelCase ar gyfer dolenni, ond yn fuan roedd yn bosibl defnyddio'r dull cromfachau dwbl presennol. Yn Ionawr 2002, fe gychwynnodd Wicipedia ddefnyddio meddalwedd wici PHP a ysgrifennwyd ar gyfer Wicipedia gan Magnus Manke, gyda cronfa ddata MySQL, ac ychwanegwyd sawl rhinwedd newydd ("Cyfnod II"). Ar ôl ychydig, arafodd y safle nes bod golygu bron yn amhosibl; fe newidwyd y feddalwedd sawl tro ond dim ond am ychydig y lleddfodd hynny'r broblem. Yna, ysgrifennodd Lee Daniel Crocker y feddalwedd o'r newydd, ac mae'r fersiwn newydd, sydd llawer yn well, wedi bod yn rhedeg ers Gorffennaf 2002. Gelwid y meddalwedd "Cyfnod III" hwn yn MediaWiki. Ers hynny, mae Brion Vibber wedi ymgymryd â thrwsio gwallau.
Cynhelir y prosiect ar weinydd neilltuol, a leolwyd yn San Diego. Mae'r gweinydd hwn yn gyfrifol am Wicipedia ymhob iaith. CPU Athlon deublyg 1700+ ydyw, gyda 2 GB o RAM, ac yn rhedeg Red Hat Linux â'r gweinydd gwe Apache.
[golygu] Prosiectau cysylltiedig
Mae gan Wicipedia brosiectau cysylltiedig:
- Wiciadur, prosiect geiriadur rhydd
- Wikillyfrau, prosiect gwerslyfr rhydd
- Wicitestun, prosiect ffynonellau
- Wikiquote, gwyddoniadur rhydd o ddyfyniadau
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Cysylltiadau allanol a chyfeiriadau
- (Saesneg) Wikipedia 1.0 (plan and discussion)
- (Saesneg) The Free Universal Encyclopedia and Learning Resource by Richard Stallman (RMS)
- (Saesneg) FSF endorsement of Wikipedia
- (Saesneg) RMS describes Wikipedia as 'exciting news'
- Meta-Wici
- (Saesneg) MediaWiki Fersiwn 1.9.3 - SourceForge
- (Saesneg) Wikipedia press coverage
- (Saesneg) Yahoo News articles that mention Wikipedia (updated regularly)
- (Saesneg) Sarah Lane's vandalism of the monkeypox article
- (Saesneg) Wikipedia Article on CNN
- (Saesneg) IBM History Flow: Technical experiment on "visualizing dynamic, evolving documents and the interactions of multiple collaborating authors." Uses various Wikipedia articles as example data.
