Carwyn Jones
| Carwyn Jones | |
|
|
|
| Deiliad | |
| Cymryd y swydd 9 Rhagfyr 2009 |
|
| Rhagflaenydd | Rhodri Morgan |
|---|---|
|
|
|
| Geni | 21 Mawrth 1967 Abertawe |
| Etholaeth | Pen-y-bont ar Ogwr |
| Plaid wleidyddol | Llafur |
| Priod | Lisa |
| Alma mater | Prifysgol Cymru |
Prif Weinidog Cymru yw Carwyn Jones (ganwyd 21 Mawrth 1967). O 2007 i 2009 ef oedd Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Fe yw aelod Cynulliad Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n fargyfreithwr.
[golygu] Prifweinidogaeth
Enillodd Carwyn Jones y ras i olynu Rhodri Morgan fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2009, gyda 51.97% o'r bleidlais, gan drechu Edwina Hart (29.19%) a Huw Lewis (18.84%).[1] Enwebwyd ef gan y Cynulliad i olynu Rhodri Morgan fel Prif Weinidog Cymru ar y 9 o Rhagfyr.[2]
Tyngodd y llw fel Prif Weinidog Cymru ddydd Iau, 10 Rhagfyr mewn seremoni ffurfiol dan arweiniad y barnwr Mr Ustus Nigel Davis yn swyddfa Carwyn Jones ym Mharc Cathays, Caerdydd.[3]
Ad-drefnodd cabinet Llywodraeth y Cynulliad ar ôl dod yn brif weinidog. Penododd Leighton Andrews, rheolwr ei ymgyrch,[3] fel Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes.
Ei daith dramor gyntaf fel Prif Weinidog oedd i Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen ar 14 Rhagfyr 2009.[4] Gadawodd y gynhadledd yn gynnar y diwrnod canlynol oherwydd marwolaeth ei fam, Janice Jones.[5]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ "Carwyn yn cipio'r arweinyddiaeth", BBC, 1 Rhagfyr 2009.
- ↑ "Carwyn Jones yn cael ei enwebu i fod yn Brif Weinidog", BBC, 9 Rhagfyr 2009.
- ↑ 3.0 3.1 "Carwyn Jones yn tyngu llw fel Prif Weinidog", BBC, 10 Rhagfyr 2009.
- ↑ "Carwyn Jones yng nghynhadledd newid hinsawdd", BBC, 14 Rhagfyr 2009.
- ↑ "Carwyn yn dod yn ôl i Gymru", BBC, 15 Rhagfyr 2009.
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr 1999 – presennol |
Olynydd: deiliad |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: Andrew Davies |
Gweinidog Busnes y Cynulliad 2002 – 2003 |
Olynydd: Karen Sinclair |
| Rhagflaenydd: swydd newydd |
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad 2000 – 2007 |
Olynydd: Jane Davidson |
| Rhagflaenydd: swydd newydd |
Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg 2007 (31 Mai i 19 Gorffennaf) |
Olynydd: swydd wedi'i had-drefnu |
| Rhagflaenydd: swydd newydd |
Arweinydd y Tŷ 2007 – 2009 |
Olynydd: heb ei gyhoeddi eto |
| Rhagflaenydd: Rhodri Morgan |
Prif Weinidog Cymru 2009 – presennol |
Olynydd: deiliad |
| Swyddi cyfreithiol | ||
| Rhagflaenydd: swydd newydd |
Cwnsler Cyffredinol Cymru 2007 – 2009 |
Olynydd: John Griffiths |
|
|||||
- Genedigaethau 1967
- Gwleidyddion Cymreig
- Gwleidyddion y Blaid Lafur (DU)
- Prif Weinidogion Cymru
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999–2003
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007–2011
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011–2015
- Pobl o Ben-y-bont ar Ogwr
- Pobl o Abertawe
- Egin Cymry