Alun Michael
| Alun Michael | |
|
|
|
| Deiliad | |
| Cymryd y swydd 11 Mehefin 1987 |
|
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 – 1 Mai 2000 |
|
|
|
|
| Geni | |
|---|---|
| Plaid wleidyddol | Y Blaid Lafur (DU) |
| Alma mater | Prifysgol Keele |
Gwleidydd Cymreig yw Alun Edward Michael (ganed 2 Awst 1943). Mae'n cynrychioli etholaeth De Caerdydd a Phenarth dros y Blaid Lafur ers 1987.
Roedd yn weinidog iau yn y Swyddfa Gartref rhwng 1997 a 1998 cyn derbyn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ôl ymddiswyddiad Ron Davies ym mis Hydref 1998. Ar ôl etholiadau cyntaf i'r cynulliad ar 6 Mai 1999, fel arweinydd grŵp y Blaid Lafur o fewn y cynulliad, fe'i hetholwyd yn Brif Ysgrifennydd hefyd.
Gwahanwyd swyddi Prif Ysgrifennydd y Cynulliad ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Gorffennaf 1999, pryd penodwyd Paul Murphy yn ysgrifennydd gwladol. Ymddiswyddodd fel prif ysgrifennydd ar 9 Chwefror 2000 ar ôl colli pleidlais hyder yn y cynulliad. Ers hynny mae wedi dal dwy swydd yn llywodraeth San Steffan: mae wedi bod yn ysgrifennydd gwladol (dros faterion gwledig) yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig o 2001 tan 2005, ac yn weinidog dros ddiwydiant a'r rhanbarthau yn Adran Masnach a Diwydiant o 2005 tan 2006. Collodd ei swydd yn aildrefnu'r llywodraeth ym mis Mai 2006.
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: James Callaghan |
Aelod Seneddol dros Dde Caerdydd a Phenarth 1987 – presennol |
Olynydd: deiliad |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: Ron Davies |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru 27 Hydref 1998 – 28 Gorffennaf 1999 |
Olynydd: Paul Murphy |
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
| Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru 1999 – 2003 |
Olynydd: Delyth Evans |
| Seddi'r cynulliad | ||
| Rhagflaenydd: swydd newydd |
Prif Ysgrifennydd Cymru 12 Mai 1999 – 9 Chwefror 2000 |
Olynydd: Rhodri Morgan |