Prifysgol Caerdydd
| Prifysgol Caerdydd | |
|---|---|
| Prif adeilad Prifysgol Caerdydd | |
| Arwyddair | "Gwirionedd Undod A Chytgord" |
| Sefydlwyd | 1883 (fel University College of South Wales & Monmouthshire) |
| Canghellor | Syr Martin Evans |
| Is-ganghellor | Yr Athro Colin Riordan |
| Staff | 5,230 |
| Myfyrwyr | 30,930[1] |
| Israddedigion | 21,800[1] |
| Ôlraddedigion | 7,840[1] |
| Myfyrwyr eraill | 1,290[1] |
| Lleoliad | Caerdydd, |
| Campws | Trefol |
| Lliwiau | Du a choch |
| Tadogaethau | Russell Group EUA Prifysgol Cymru Universities UK |
![]() |
|
| Gwefan | http://www.caerdydd.ac.uk/ |
Prifysgol ym Mharc Cathays, Caerdydd a sefydlwyd ym 1883 yw Prifysgol Caerdydd (Saesneg: Cardiff University). Roedd hi'n aelod Prifysgol Cymru tan 2004.
Mae Prifysgol Caerdydd yn un o brif brifysgolion ymchwil y byd, gyda thros 60% o'r ymchwil a wneir yng Nghaerdydd wedi ei ystyried ymysg y gorau yn y byd.[2] Yn hynny o beth, mae Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion Grwp Russell.
Sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy ym 1883, ac fe'i gorfforwyd trwy Siarter Frenhinol ym 1884. Ym 1931, gwahanwyd yr Ysgol Feddygaeth oddi wrth y Coleg er mwyn ffurfio Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru. Ym 1972, ail-enwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy fel Coleg Prifysgol, Caerdydd.[3] Ym 1988, oherwydd uno Coleg Prifysgol, Caerdydd ac Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, cafodd y sefydliad yr enw Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Newidwyd hynny i Brifysgol Cymru, Caerdydd ym 1996, a wedyn yn 2004, ail-unwyd Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru gyda Phrifysgol Cymru, Caerdydd ac fe gymrodd y sefydliad yr enw swyddogol Prifysgol Caerdydd.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2006/07. Higher Education Statistics Agency. Adalwyd ar 20 Ebrill 2008.
- ↑ http://www.guardian.co.uk/education/2009/may/10/universityguide-cardiff-uni Canllaw y Guardian i'r Brifysgol, 2013.
- ↑ http://www.hefcw.ac.uk/about_he_in_wales/higher_education_institutions/cardiff_university.aspx Tudalen y Brifysgol ar wefan HEFCW.
