Prifysgol Fetropolitan Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Cardiff-Metropolitan-University.png
Arwyddair Gorau meddiant gwybodaeth
Sefydlwyd 1865 (fel Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd)
1976 (cyfunwyd â thri choleg arall i sefydlu Athrofa Addysg Uwch Morgannwg)
Math Cyhoeddus
Canghellor Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru
Is-ganghellor Yr athro Antony J Chapman[1]
Myfyrwyr 12,000
Myfyrwyr eraill 74
Lleoliad Caerdydd, Baner Cymru Cymru
Campws Trefol
Lliwiau
                       
Tadogaethau Cynghrair Brifysgolion
Cymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad
Gwefan http://www.uwic.ac.uk/

Prifysgol fodern yng Nghaerdydd, Cymru yw Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (Saesneg: Cardiff Metropolitan University) (adnabuwyd yn flaenorol fel UWIC). Mae'n gweithredu o dri champws ar draws y ddinas: Llandaf ar Rodfa'r Gorllewin, Cyncoed, a Howard Gardens yng Nghanol y Ddinas. Mae'n gwasanaethu dros 12,000. Adnabuwyd fel Athro Prifysgol Cymru, Caerdydd, cadarnhawyd ar ddydd Mawrth, 11 Hydref 2011 y byddai'r sefydliad yn newid ei enw i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn unol â'r ymgais llwyddiannus i'r Cyfrin Gyngor am newid enw a gyflwynwyd y llynedd. Daeth yr enw i rym ar 1 Tachwedd 2011.[2]

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn cynnal cyrsiau mewn celf a dylunio, peirianneg, y gwyddorau, busnes a thechnoleg gwybodaeth, hyfforddiant athrawon, dyniaethau, gwyddorau cymdeithas, iechyd, chwaraeon, twristiaeth a hamdden. Maent yn gwasanaethu israddedigion ac ôl-raddedigion yn llawn ac yn rhan amser, yn ogystal â chynig nifer o gyfleodd ymchwil.

Hanes[golygu]

Gwreiddiau[golygu]

Agorwyd Ysgol Gelf yn hen adeilad y Llyfrgell Rydd, Heol Eglwys Fair ym 1865. Yn 1900, symudodd i'r Adeiladau Technegol ym Mhlas Dumfries. Symudodd unwaith eto ym 1949, i The Friary.

Tua 1940, agorwyd Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd ar Heol y Crwys.

Agorwyd Coleg Hyfforddiant Caerdydd ym Mharc y Mynydd Bychan ym 1950, ac agorwyd Coleg Technegol Llandaf ar Rodfa'r Gorllewin ym 1954, ar gyfer myfyrwyr y gwyddorau iechyd, dylunio a pheirianneg. Symudodd y coleg hwn i gampws yng Nghyncoed yn 1962, campws sydd erbyn hyn yn gartref i Ysgolion Addysg a Chwaraeon UWIC.

Ym 1965, symudodd y coleg celf, a adnabuwyd fel Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd erbyn hynny, i gampws newydd yn Howard Gardens, lle mae adran celf UWIC yn dal i fod heddiw.

Symudodd y Coleg Technoleg Bwyd a Masnach i gampws newydd ar Rodfa Caer Colun ym 1966, campws a ddaeth yn gartref i fyfyrwyr busnes, hamdden, lletygarwch, twristiaeth a bwyd. Mae'r campws yn parhau i fod yn gartref i'r myfyrwyr rhain hyd heddiw.

Uniad[golygu]

Unodd y pedwar coleg ym 1976, gan ffurfio Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg. Newidiwyd yr enw ym 1990, i Athrofa Addysg Uwch Caerdydd, mewn paratoad ar gyfer ei gorfforiad.

Ym 1992, ymunodd yr athrofa â Phrifysgol Cymru fel corff annibynnol, nad oedd bellach o dan reolaeth y Cyngor Sir.

Enillodd Bwerau Gwobrwyo Graddau Dysgu gan y Cyfrin Gyngor ym 1993. Ym mis Awst, enillont yr hawl i wobrwyo eu graddau eu hunain, ond dewisont yn hytrach i gyfnerthu eu cysylltiadau â Phrifysgol Cymru. Derbyniodd yr athrofa statws Coleg Prifysgol o fewn Prifysgol Cymru ym 1996 ac ailenwyd i'w enw presennol, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Agorodd y Ganolfan Athletau Dan do Cenedlaethol ar gampws Cyncoed ym 1999.

Yn 2003, daeth yr athrofa'n rhan o Brifysgol Cymru.

Lansiwyd Consortiwm FE2HE-UWIC yn 2004, sef partneriaeth addysg bellach ac addysg uwch ar y cyd gyda cholegau y Barri, Pen-y-bont ar Ogwr, Ystrad Mynach a Choleg Glan Hafren, Caerdydd; ymunodd Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd, y consortiwm yn 2009.

Yn 2006, daeth Ysgol Fasnach Llundain yn Goleg Cydymaith UWIC.

Gosododd UWIC record pan wobrwywyd hi gyda'r Marc Siarter (am ragoriaeth yng ngwasanaethau cyhoeddus) am y pumed tro, a chydnabuwyd yn ogystal gan yr Asiantaeth Yswiriant Safon am safon uchel eu gweithrediad academaidd.

Datblygiadau newydd[golygu]

Yn 2009 lansiwyd yr UWIC Foundation, a fydd yn cael ei ariannu gan gyfraniadau elusennol, er mwyn cynyddu safon uchel dysgu ac ymchwil. Agorodd Canolfan Diwydiant Bwyd yn Llandaf, gyda champws aml-bwrpas yn agor yng Nghyncoed yng Nghyncoed yn yr Hydref, a gostiodd £4.9 miliwn.

Erbyn hyn mae gan UWIC dros 12,000 o fyfyrwyr o dros 128 gwlad yn fyd eang, gan gynnwys nifer o fyfyrwyr sy'n astudio dramor, megis yn Llundain, Kuala Lumpur, Dhaka a Singapore. Gyda throsiant blynyddol o dros £75 miliwn, mae adeiladu ar waith ar adeilad newydd £20 miliwn a fydd yn gartref newydd i Ysgol Rheolaeth Caerdydd yn Llandaf, a bwriadir sefydlu canolfannau dysgu newydd dramor yn Awstralia, Bwlgaria, Morocco a'r Aifft.

Mae UWIC yn falch o allu cynnig cyfleusterau modern o'r safon uchaf, mae buddsoddiad sylweddol wedi bod yn ystod y blynyddoedd diweddar; gwariwyd £50 miliwn yn datblygu'r ystadau yn unig.[3]

Cefnogir y datblygiad sydd wedi cael ei grybwyll gan Weinyddiaeth Addysg Singapôr a'r Bwrdd Datblygu Economaidd, sef i ddatblygu adeilad gyda brand UWIC ar gampws EASB yn 2009, a fydd yn cael ei adnabod fel Campws Asia, UWIC. Mae UWIC yn cynnig graddau wedi eu hetholfreinio mewn amryw o bynciau gan gynnwys cyfrifeg, Rheolaeth Lletygarwch Rhyngwladol a gradd Meistr Gweinyddiaeth Busnes, dechreusant hefyd gynnig Baglor y Celfyddydau mewn Astudiaethau Rheolaeth a Busnes ar ddechrau tymor academaidd 2009.

Chwaraeon[golygu]

Caiff UWIC ei gysidro'n fawr am eu rhagoriaeth ym maes chwaraeon, mae Rholyn Anrhydedd UWIC yn cynnwys dros 300 o berfformwyr rhyngwladol mewn 30 o wahanol chwaraeon, gan gynnwys:

  • 7 Capten Tîm Rygbi Cenedlaethol Cymru
  • 15 aelod o'r Llewod Prydeinig
  • 7 Hyfforddwr rygbi cenedlaethol
  • 25 chwaraewr pêl-rwyd cenedlaethol
  • Hyfforddwyr gymnasteg rhyngwladol
  • Cyfarwyddwyr technegol gymnasteg, nofio a chriced
  • Hyfforddwr athletau, pêl-fasged, a chodi pwysau cenedlaethol
  • 11 chwaraewr sboncen rhyngwladol

Timau chwaraeon[golygu]

Cyn-fyfyrwyr o nôd[golygu]

Celfyddydau a ffasiwn

Teledu, radio a cherddoriaeth

Cyllid

  • Vikas Jain

Chwaraeon

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]