Cyncoed
Ardal ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd yw Cyncoed. Lleolir yng nghogledd-ddwyrain y ddinas, ac mae'n un a ardaloedd cyfoethocaf Caerdydd, a Chymru yn gyffredinol, gyda rhai o brisiau tai drystaf Cymru. Mae hefyd yn amgylchynu pentref Lakeside, lle mae stryd cyfoethocaf Caerdydd ac un o'r ysgolion mwyaf poblogaidd iw cael.
Adeiladwyd yr ardal yn ystod yr 20fed ganrif yn bennaf, pan oedd Caerdydd yn ehangu'n sydyn. Mae'r tai yno yn gymysgedd o dai mawr ar wahân a thai ar led-wahân llai. Mae ystadau tai modern yn amgylchynnu'r ardal erbyn hyn, ac mae nifer o'r tai gwreiddiol wedi cael eu dychwel gyda sawl tŷ newydd llai yn cael eu adeiladu ar yr hen safle.
Mae gan yr ardal ganolfan siopa bychain, nifer o eglwysi, a synagog, oherywdd bod cymuned Iddewig gweddol fawr yng Nghyncoed, ac ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae hefyd yn gartref i un o gampysau Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd a neuaddau annedd Prifysgol Caerdydd.
Ward etholaeth [golygu]
Mae ward etholaeth Cyncoed yn sefyll o fewn ffiniau etholaeth seneddol Canol Caerdydd. Mae'n cael ei ffinio gan Llanisien i'r gogledd-orllewin; Llysfaen i'r gogledd; Pentwyn i'r dwyrain; Penylan a Phlasnewydd i'r de; a'r Mynydd Bychan i'r gorllewin.
Dolenni allanol [golygu]
| Cymunedau Caerdydd |
|
Caerau | Castell | Cathays | Coryton | Croes Cwrlwys | Cyncoed | Danescourt | Yr Eglwys Newydd | Gabalfa | Glan yr Afon | Llandaf | Llanedeyrn | Llaneirwg a Phentre Laneirwg | Llanisien | Llanrhymni | Llysfaen | Y Mynydd Bychan | Pentwyn | Pentyrch | Plasnewydd | Pontprennau | Radur a Threforgan | Rhiwbeina | Y Rhath | Sain Ffagan | Y Sblot | Tre-Biwt | Tredelerch | Treganna | Trelái | Trelluest | Tongwynlais | Trowbridge | Y Tyllgoed | Waunadda | Ystum Taf |