Julien Macdonald

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Julien MacDonald)
Neidio i: llywio, chwilio

Dylunydd ffasiwn o Gymro yw Julien Macdonald OBE (ganwyd 19 Mawrth, 1972 ym Merthyr Tudful).

Julien Macdonald

Bywgraffiad[golygu]

Ganwyd Macdonald ym Merthyr Tydfil a mynychodd Ysgol Cyfarthfa. Dysgodd ei fam ef sut i weu a daeth diddordeb mewn dylunio yn fuan wedyn. Roedd diddordeb ganddo mewn gyrfa fel dawnsiwr, ond astudiodd MA tecstiliau yng Ngholeg Brenhinol Arlunio Brighton yn lle hynny. Yn fuan ar ôl graddio, cafodd ei recriwtio i weithio gyda Karl Lagerfeld ar gyfer Chanel. Gweithiodd yn law-rydd hefyd yn creu gwisg wedi ei weu ar gyfer Alexander McQueen ac Owen Gaster.

Yn 2000, apwyntiwyd ef yn olynydd i Alexander McQueen fel prif ddylunydd Tŷ Haute Couture Paris, Givenchy, ac yn 2001 enwebwyd ef yn Ddylunydd Ffasiwn Prydeinig y Flwyddyn. Caiff ei greadigaethau eu gwisgo gan sêr megis Joely Richardson, Kylie Minogue, Geri Halliwell, Shirley Bassey, Carmen Electra a Naomi Campbell. Dewiswyd ef gan British Airways i ail-ddylunio gwisg eu cynorthwywyr hedfan. Mae'n feirniad ar y fersiwn Brydeinig o'r gyfres deledu Project Runway, sef Project Catwalk, a ddarlledir ar Sky One. Yn Mehefin 2006, gwobrwywyd ef â OBE yn rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines am wasanaethau i'r diwydiant ffasiwn.

Ei ymddygiad dadleuol[golygu]

Mae Julien Macdonald wedi denu beirniadaeth hallt am ei ddefnydd helaeth o ffwr anifeiliaid, a thaflwyd blawd ato yng ngwesty'r Hilton ym Mharis un tro.[1] Dywedodd mewn datganiad, mai ffwr oedd yn ennill y rhan fwyaf o'i arian ac y buasai ei label yn methu pe na bai'n ddefnyddio ffwr.[1] Ym mis Chwefror 2007, cafodd ei feirniadu eto am ddefnyddio ffwr yn ei gasgliad Hydref. Achosodd wylltio pellach wrth ddweud "People who don't like fur can p*ss off. I love fur. It's a beautiful natural product from animals."[2] Caiff yr hetiau couture eu creu gan Prudence Millinery.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • [1] Erthygl gan yr Independent
  • [2] Erthygl gan y Daily Mail

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni Allanol[golygu]