Roy Noble

Oddi ar Wicipedia
Roy Noble
GanwydTachwedd 1942 Edit this on Wikidata
Brynaman Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethathro, cyflwynydd teledu, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Darlledwr radio a theledu Cymraeg a Saesneg yw Roy Noble OBE, DL, O.St.J (ganwyd 8 Tachwedd 1942).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Noble yn 1942 ym Mrynaman, Sir Gâr, yn unig fab i lôwr, Ivor Noble, a'i wraig Sadie. Magwyd ym Mrynaman, ac ar ôl pasio ei arholiad Wedi 11 mynychodd Ysgol Dyffryn Aman lle roedd ei gyd-ddisgyblion yn cynnwys Vernon Pugh a John Cale.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Byd addysg[golygu | golygu cod]

Fe symudodd o Rydaman i Gaerdydd er mwyn gwneud ymarfer dysgu. Yna fe aeth yn athro yn Lloegr cyn dychwelyd i Gymru.

Fe ddaeth yn Brifathro ar ysgol Thomas Stephens ym Mhontneddfechan ac yna Ysgol Gynradd Llangatwg yng Nghrucywel.

Darlledu[golygu | golygu cod]

Yn ddiweddarach fe ddechreuodd weithio yn rhan amser i BBC Radio Wales gan gyflwyno eitem Letters from Aberdare ar y rhaglen foreol. Yn 1985 fe adawodd fyd addysg gan gymryd swydd llawn amser gyda'r BBC. Fe gyflwynodd rhaglen ddyddiol ar BBC Radio Wales gan ennill gwobr Sony yn 1999. Yn 2012 fe adawodd y rhaglen ddyddiol a fe gychwynodd rhaglen wythnosol ar fore Sul ar yr un gorsaf.

Roedd yn un o gyflwynwyr rheolaidd y rhaglen ddyddiol Heno ar S4C o 1994 hyd at 2001.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n byw gyda'i wraig Elaine ym mhentre Llwydcoed ger Aberdâr yng Nghwm Cynon. Mae gan y cwpl un mab, Richard.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Roy Noble. terrynorm.ic24.net.
  2. Proffil Roy Nobile ar wefan 'bywyd' BBC[dolen marw], Adalwyd ar 17 Medi 2015

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]