Kuala Lumpur
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas Malaysia yw Kuala Lumpur, a dalfyrrir yn aml i KL yn lleol. Saif gerllaw cymer afonydd Gombak a Kelang, ac mae'r enw mewn Malaieg yn golygu "cymer mwdlyd". Mae'r boblogaeth bron yn ddwy filiwn.
Dechreuodd Kuala Lumpur dyfu tua 1860, oherwydd presenoldeb tun yn yr ardal, a daeth yn brifddinas erbyn 1896. Adeilad enwocaf y ddinas yw'r Petronas Twin Towers, tŵr dwbl 452 medr o uchder. Am gyfnod, y rhain oedd adeilad uchaf y byd, hyd nes i dŵr Burj Dubai gael ei adeiladu.
Mae Kuala Lumpur yn ddinas amlddiwylliannol, gyda dylanwadau Sineaidd ac Indiaidd cryf.