Burj Dubai

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Burj Dubai

Tŵr sydd ar hyn o bryd yn cael ei adeiladu yn Dubai yn Yr Emiradau Arabaidd Unedig yw Burj Dubai (Arabeg: برج دبي "Tŵr Dubai"). Pan fydd wedi ei orffen, hwn fydd y tŵr uchaf yn y byd. Dechreuwyd ei adeiladu ar 21 Medi, 2004, a disgwylir iddo gael ei orffen ym mis Medi 2009.

Ar 12 Medi 2007, cyrhaeddodd Burj Dubai 555.3 medr, ddan ddod yn uwch na Tŵr CN yn Toronto, yr uchaf yn y byd hyd hynny. Ar 9 Mehefin 2008, roedd Burj Dubai wedi cyrraedd uchder o 638 medr, gyda 160 o loriau. Cedwir yr uchder terfynol yn gyfrinachol ar hyn o bryd, ond credir y bydd tua 818 medr.

Offer personol