Tŵr CN
Oddi ar Wicipedia
Y Tŵr CN yn Toronto o Lyn Ontario
Tŵr 553.33 metr (1,815.39 troedfedd) o uchder yn ninas Toronto, Ontario, Canada yw'r Tŵr CN. Wrth iddo gael ei adeiladu yn 1975, daeth yn dŵr uchaf y byd gan orddiweddu Tŵr Ostankino. Ar Fedi 12, 2007, ar ôl dal y record yna am 31 o flynyddoedd, gorddiwedwyd y Tŵr CN fel strwythur uchaf y byd gan y Burj Dubai yn ninas Dubai yn yr Emiradau Arabaidd Unedig. Ond mae'n dal i fod y strwythur uchaf yn yr Amerig ac yn eicon sy'n dominyddu awyrlinell Toronto, gan ddenu tua dwy filiwn o ymwelwyr yn flynyddol.
Mae'r CN yn yr enw yn cyfeirio at y cwmni rheilffordd Canadian National, ond yn answyddogol mae'n cael ei alw weithiau yn Canadian National Tower ers i'r cwmni rheilffordd gael ei breifateiddio yn 1996.
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol