Casablanca

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Boulevard de Paris, Casablanca

Mae Casablanca (Arabeg: Dar el-Baïda; Casa ar lafar ym Moroco) yn ddinas ar arfordir gorllewinol Moroco, tua 100km i'r de o'r brifddinas Rabat a tua 90km i'r gogledd o El Jadida. Mae ganddi boblogaeth o 3.2 miliwn (2001) sy'n ei gwneud hi'r ddinas fwyaf yn y wlad. Mae'n borthladd pwysig a chanolfan diwydiannol. Mae'n brifddinas rhanbarth Grand Casablanca, un o rhanbarthau Moroco.

Mae'r enw Casablanca yn golygu "Tŷ gwyn".

Un o brif atyniadau Casa heddiw yw Mosg Hassan II.

[golygu] Adeiladau a chofadeiladau

  • Cathédrale Sacré-Coeur (eglwys gadeiriol)
  • Lycée Lyautey
  • Yr Hen Medina
  • Mosg Hassan II
  • Neuadd y dinas
  • Technoparc Casablanca

[golygu] Enwogion

Magwyd y llenor Driss Chraïbi yn Casa.

[golygu] Ffilm

Er na chafodd ei saethu yn Casa, lleolir y ffilm enwog Casablanca, gyda Humphrey Bogart ac Ingrid Bergman yn y prif ranau, yn y ddinas adeg yr Ail Ryfel Byd.

Flag of Morocco.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill