Humphrey Bogart
Oddi ar Wicipedia
| Humphrey Bogart | |
|---|---|
Bogart ym 1946 |
|
| Ganwyd | 25 Rhagfyr, 1899 Dinas Efrog Newydd, UDA |
| Bu farw | 14 Ionawr, 1957 Los Angeles, Califfornia |
| Enwau eraill | Humphrey DeForest Bogart |
| Yn enwog am | Angels with Dirty Faces, High Sierra, Casablanca |
| Galwedigaeth | Actor |
Actor Americanaidd oedd Humphrey DeForest Bogart (25 Rhagfyr, 1899 – 14 Ionawr, 1957)[1][2]. Caiff ei ystyried gan lawer yn eicon diwylliannol.[3][4]
Ar ôl iddo droi'i law at nifer o swyddi gwahanol, dechreuodd Bogart actio ym 1921 a daeth yn actor adnabyddus yng nghynhyrchiadau Broadway yn ystod y 1920au a'r 1930au. Pan fu cwymp y farchnad stoc ym 1929 yn Wall Street, lleihaodd y galw am ddramau ac felly dechreuodd Bogart weithio ym myd y ffilm. Cafodd ei lwyddiant mawr cyntaf fel Duke Mantee yn The Petrified Forest (1936), ac arweiniodd hyn iddo gael ei deipcastio fel dihiryn mewn ffilmiau fel Angels with Dirty Faces (1938) a ffilmiau categori-B fel The Return of Doctor X (1939).
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Cyhoeddiad genedigaeth Ontario County Times, 10 Ionawr 1900.
- ↑ Birthday of Reckoning.
- ↑ Michael Sragow (16 Ionawr, 2000). SPRING FILMS/REVIVALS; How One Role Made Bogart Into an Icon. The New York Times.
- ↑ 100 Icons of the Century - Humphrey Bogart. Variety (16 Hydref, 2005).