Wall Street

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae yna 383 o Wall Streets gwahanol yn y byd, ond mae'r stryd hanesyddol ym Manhattan Isaf, Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, yn yr Unol Daleithiau. Rhed y stryd i'r dwyrain o Broadway i South Street ar yr Afon Ddwyreiniol, trwy ganol yr Ardal Ariannol hanesyddol. Dyma yw cartref cyntaf Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd; dros y blynyddoedd, mae'r enw Wall Street wedi ei ehangu i gynnwys y gymdogaeth daearyddol o'i hamgylch hefyd. Defnyddir "Wall Street" hefyd fel rhyw fath o dalfyrriad am y diwydiant ariannol Americanaidd, sydd wedi'i lleoli yn ardal Dinas Efrog Newydd. Mae nifer o gyfnewidfeydd stoc mawrion yr Unol Daleithiau a chyfnewidfeydd eraill wedi'u lleoli ar Wall Street ac yn yr Ardal Ariannol, gan gynnwys y NYSE, NASDAQ, AMEX, NYMEX, a NYBOT.

Accountancy template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag USA template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.