Buenos Aires
- Erthygl am ddinas Buenos Aires yw hon. Am y dalaith o'r un enw, gweler Talaith Buenos Aires.
Buenos Aires (enw llawn yn Sbaeneg: Ciudad Autónoma de Buenos Aires) yw prifddinas Ariannin. Gyda'r ardal o'i chwmpas, Gran Buenos Aires, hi yw'r ail ddinas o ran maint yn Ne America. Awyr dda (neu gwyntoedd teg) yw ystyr yr enw.
Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Saif Buenos Aires ar lan y Río de la Plata, 34º 36' i'r de a 58º 26' i'r gorllewin. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol oherwydd dylanwad y môr; y mis oeraf yw Gorffennaf gyda thymheredd rhwng 3º a 8º, ond mae rhew ac eira yn anarferol. Yn yr haf gellir cyrraedd tymheredd o tua 28º. Ceir 1,146 mm. o law y flwyddyn ar gyfartaledd.
[golygu] Poblogaeth
Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd poblogaeth y ddinas yn 2,776,138, ond mae poblogaeth Gran Buenos Aires yn 11,460,575.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd y ddinas yn 1536 gan Pedro de Mendoza, a'i hail-sefydlu yn 1580 gan Juan de Garay. Yn 1776 dewiswyd y ddinas yn brifddinas y Virreinato del Río de la Plata.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Banco de la Nacion Argentina
- Diagonal Norte
- Galerías Pacífico
- Iglesia Santa Felicitas
- Teatro Colón
[golygu] Enwogion
- Manuel Belgrano (1770-1820), milwr a gwleidydd
- Carlos Pellegrini (1846-1906), gwleidydd
- Alberto Ginastera (1916-1983), cyfansoddwr
- Alejandro Rey (1930-1987), actor
[golygu] Dolenni allanol
- (Sbaeneg) Llywodraeth Dinas Buenos Aires
- Buenos Aires
| Taleithiau'r Ariannin | |
|---|---|
| Dinas Ffederal | Buenos Aires | Catamarca | Chaco | Chubut | Córdoba | Corrientes | Entre Ríos | Formosa | Jujuy | La Pampa | La Rioja | Mendoza | Misiones | Neuquén | Río Negro | Salta | San Juan | San Luis | Santa Cruz | Santa Fe | Santiago del Estero | Tierra del Fuego, Antarctica ac Ynysoedd y De Iwerydd | Tucumán | |