Talaith Buenos Aires

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Talaith Buenos Aires

Un o daleithiau yr Ariannin yw Talaith Buenos Aires (Sbaeneg: Provincia de Buenos Aires). Hi yw'r fwyaf o daleithiau'r Ariannin o ran arwynebedd a phoblogaeth. Roedd ei phoblogaeth yn 2001 yn 13,827,203.

Saif yn nwyrain canolbarth y wlad. Yn y gogledd mae'n ffinio ar daleithiau Entre Ríos a Santa Fe, yn y gorllewin a thaleithiau Córdoba, La Pampa a Río Negro. Yn y de a'r dwyrain mae'r Iwerydd yn ffin iddi. Nid yw dinas Buenos Aires ei hun yn rhan o'r dalaith; prifddinas y dalaith yw La Plata.

Yn wahanol i daleithiau eraill yr Ariannin, sydd wedi eu rhannu i departamentos, rhennir Talaith Buenos Aires i raniadau llai a elwir yn partidos. Yn Rhagfyr 2007 roedd 134 o'r rhain.


Taleithiau'r Ariannin Baner yr Ariannin
Dinas Ffederal | Buenos Aires | Catamarca | Chaco | Chubut | Córdoba | Corrientes | Entre Ríos | Formosa | Jujuy | La Pampa | La Rioja | Mendoza | Misiones | Neuquén | Río Negro | Salta | San Juan | San Luis | Santa Cruz | Santa Fe | Santiago del Estero | Tierra del Fuego, Antarctica ac Ynysoedd y De Iwerydd | Tucumán
Flag of Argentina.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Ariannin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.