Manuel Belgrano

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Manuel Belgrano.

Economegydd, cyfreithiwr, gwleidydd ac arweinydd milwrol Archentaidd oedd Manuel José Joaquín del Corazón de Jesús Belgrano, sef Manuel Belgrano (3 Mehefin, 1770 – 20 Mehefin, 1820), a aned yn ninas Buenos Aires. Fe'i ystyrir yn un o arwyr cenedlaethol yr Ariannin.

Daeth yn arweinydd milwrol yn Rhyfel Annibyniaeth yr Ariannin a chafodd ei apwyntio'n gadfridog. Roedd Belgrano yn un o lofnodwyr Datganiad Annibyniaeth yr Ariannin, ar y 9fed o Orffennaf 1816.

Enwyd y llong ryfel ARA General Belgrano ar ei ôl; cafodd ei suddo yn Rhyfel y Malvinas yn 1982.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Baner ArgentinaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Archentwr neu Archentwraig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.