Bogotá

Oddi ar Wicipedia
Bogotá
Mathprifddinas, bwrdeistref Colombia, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, capital district or territory, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion, bwrdeistref a reolir yn uniongyrchol, anheddiad dynol, y ddinas fwyaf Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,743,955 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 6 Awst 1538 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethClaudia López Hernández Ganso Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Nawddsantyr Ymddŵyn Difrycheulyd Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCundinamarca Department Edit this on Wikidata
GwladBaner Colombia Colombia
Arwynebedd1,578 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,582 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCota, Colombia, Soacha, Chía, Funza, Mosquera Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau4.60971°N 74.08175°W Edit this on Wikidata
Cod post11 Edit this on Wikidata
CO-DC Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolswyddfa maer Bogotá Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngor Tref Bogotá Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Bogotá Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethClaudia López Hernández Ganso Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganGonzalo Jiménez de Quesada Edit this on Wikidata

Prifddinas Colombia yw Bogotá neu Bogota D. C. ("Cymorth – Sain" ynganiad Sbaeneg ) a rhwng 1991 and 2000 fe'i henwyd yn Santa Fe de Bogotá. Y ddinas fwyaf yn y wlad ydyw, â phoblogaeth o oddeutu oddeutu 7,743,955 (2020)[1]. Mae hefyd yn ganolfan weinyddol dosbarth Cundinamarca.[2] Lleolir Bogotá 2,640 medr uwchben lefel y môr, ym mynyddoedd yr Andes. Mae dau gopa pob ochr i'r dref, Guadaloupe a Monserrate, ac mae yna eglwys fach ar ben pob un. Bogotá yw un o brif ganolfanau economaidd y wlad, ynghyd â Medellín a Cali. Mae'n gartref i sawl prifysgol, gan gynnwys yr Universidad Nacional de Colombia.

Sefydlwyd Bogotá fel prifddinas "Teyrnas Newydd Granada" ar 6 Awst 1538, gan y gorchfygwr Sbaenaidd Gonzalo Jiménez de Quesada ar ôl alldaith lem i'r Andes yn gorchfygu'r brodorion , sef y Muisca. Roedden nhw'n galw ardal yn "Thybzaca" ("Yr Hen Dref)".

Mae'r ddinas wedi'i lleoli yng nghanol Colombia, ar lwyfandir uchel o'r enw Bogotá savanna, rhan o'r Altiplano Cundiboyacense sydd wedi'i leoli yn rhan ddwyreiniol yr Andes, a elwir yn Cordillera. Bogotá yw'r 3edd brifddinas uchaf yn Ne America, ac yn y byd, ar ôl Quito a La Paz, a saif 2,640 metr (8,660 tr) uwch lefel y môr. Wedi'i rannu'n 20 ardal, mae gan Bogotá arwynebedd o 1,587 cilomedr sgwâr (613 milltir sgwâr) a hinsawdd gymharol cŵl sy'n gyson trwy'r flwyddyn.

Mae Bogotá yn adnabyddus am ei wytnwch economaidd a'i aeddfedrwydd ariannol, ei atyniad i gwmnïau byd-eang ac ansawdd cyfalaf dynol.[3] Dyma galon ariannol a masnachol Colombia, gyda'r gweithgaredd busnes mwyaf o unrhyw ddinas yn y wlad. Mae'r brifddinas yn gartref i'r brif farchnad ariannol yng Ngholombia a rhanbarth naturiol yr Andes, a hi yw'r brif gyrchfan ar gyfer prosiectau buddsoddi uniongyrchol tramor newydd sy'n dod i America Ladin a Colombia. Mae ganddi'r Cynnyrch mewnwladol crynswth CMC nominal uchaf yn y wlad, sef chwarter cyfanswm y wlad (24.7%).[4]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Mae enw Bogotá yn cyfateb i ynganiad Sbaeneg y Chibcha Bacatá (neu Mueketá) a oedd yn enw anheddiad cyfagos rhwng trefi modern Funza a Cota. Mae yna wahanol farn am ystyr y gair Bacatá, ond y farfn mwyaf poblogaidd yw ei fod yn golygu "codi waliau ar dir fferm" yn yr iaith Chibcha.[5]

Yn ôl cyfieithiad poblogaidd arall mae'n golygu "Arglwyddes yr Andes".[5] Ymhellach, mae'r gair 'Andes' yn yr iaith Aymara yn golygu "mynydd disglair", gan olygu felly arwyddocâd geirfaol llawn Bogotá fel "Arglwyddes y mynydd disglair" (ond, nid Aymaraeg oedd iaith pobl Muisca ond y Chibchaeg).[6][7] Mae eraill yn awgrymu mai Bacatá oedd enw llywodraethwr y tir cyn i'r Sbaenwyr gyrraedd. Rhoddodd Jiménez de Quesada yr enw "Arglwyddes Gobaith" i'r anheddiad ond rhoddodd coron Sbaen yr enw Santafé (Ffydd Sanctaidd) iddi ym 1540 pan gafodd ei phenodi'n ddinas.

Hanes[golygu | golygu cod]

Hanes cynnar[golygu | golygu cod]

Poblogwyd ardal Bogotá yn gyntaf gan grwpiau o bobl frodorol a ymfudodd i'r de ar sail y berthynas â'r ieithoedd Chibcha eraill; Savanna Bogotá oedd y grŵp deheuol Chibcha ei iaith sy'n bodoli o Nicaragua i'r Andes yng Ngholombia. Roedd y gwareiddiad a adeiladwyd gan y Muisca, a ymgartrefodd yng nghymoedd ac ucheldiroedd ffrwythlon Altiplano Cundiboyacense (adrannau modern Cundinamarca a Boyacá a rhannau bach o Santander), yn un o'r gwareiddiadau mawr yn yr America.

Mae'r enw 'Cydffederasiwn Muisca' wedi'i roi i gymdeithas egalitaraidd rhydd o wahanol benaethiaid (caciques) a oedd yn byw mewn aneddiadau bychan o hyd at 100 bohíos. Roedd amaethyddiaeth a chymdeithas a oedd yn troi o gwmpas halen yn gymdeithas gyfoethog iawn - mewn gwaith aur, masnach a phrisyrfio'r corff dynol (mymiaeth). Roedd crefydd y Muisca yn cynnwys duwiau amrywiol, yn ymwneud yn bennaf â ffenomenau naturiol fel yr Haul (Sué) a'i wraig, y Lleuad; Chía, glaw Chibchacum, enfys (Cuchavira) a chydag adeiladu a gwledda (Nencatacoa) a doethineb (Bochica). Dilynodd eu calendr haul-a-lloer cymhleth, lle cynrychiolwyd y misoedd sidereal a synodig. Cynrychiolir eu gwybodaeth seryddol yn un o'r ychydig dirnodau sy'n bodoli o bensaernïaeth y Muisca yn El Infiernito y tu allan i Villa de Leyva i'r gogledd o Bogotá.

Cyn ymosodiadau'r Sbaenwyr[golygu | golygu cod]

Y poblogaethau cyntaf a oedd yn byw yn Ardal Fetropolitan Bogotá heddiw oedd helwyr-gasglwyr - a hynny yn niwedd y Pleistosen. Mae'r dystiolaeth hynaf hyd yma wedi'i darganfod yn El Abra (12,500 CP), i'r gogledd o Zipaquirá. Mae cloddiadau mewn lloches graig i'r de-orllewin o'r ddinas yn Soacha wedi'u dyddio o tua 11,000 CP; Tequendama. Ers tua 0 OC, bu moch cwta dof y Muisca yn rhan o'u diet.[8] Y bobl a oedd yn byw yn Savanna Bogotá ar ddiwedd y 15g oedd y Muisca, a siaradent Muysccubun, aelod o deulu iaith Chibcha.[9]

Ystyr "Muisca" yw "pobl" neu "berson", gan wneud "pobl Muisca", fel y'u gelwir, yn enw aildadroddus. Cyn i'r conquistadores o Sbaen gyrraedd, amcangyfrifir bod poblogaeth y Muisca yn hanner miliwn ar Savanna Bogotá, a hyd at ddwy filiwn yng Nghydffederasiwn Muisca. Roeddent yn byw ar yr ymylon lle roedd hinsawdd uchel ac ysgafn rhwng Mynyddoedd Sumapaz i'r de-orllewin a chopa eira Cocuy i'r gogledd-ddwyrain, gan gwmpasu ardal o tua 25,000 km2 (9,653 metr sgwâr), yn cynnwys gwastadedd uchel Bogotá, cyfran fawr o'r ddinas fodern, Boyacá ac ardal fechan yn rhanbarth Santander.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Bryniau Dwyreiniol

Mae Bogotá wedi'i leoli yn rhan dde-ddwyreiniol Savanna Bogotá (Sabana de Bogotá) ar uchder cyfartalog o 2,640 metr (8,660 tr) uwch lefel y môr.[10][11] Gelwir Savanna Bogotá yn aml yn "savannah" (sabana), ond mewn gwirionedd mae'n llwyfandir uchel ym mynyddoedd yr Andes, rhan o ranbarth estynedig o'r enw Altiplano Cundiboyacense, sy'n llythrennol yn golygu "llwyfandir uchel Cundinamarca a Boyacá". Bogotá yw'r ddinas fwyaf yn y byd ar ei drychiad (hy o ran uchder); nid oes unrhyw ardal drefol sy'n uwch ac yn fwy poblog na Bogotá.

Yn ne eithaf Ardal Bogota, gellir dod o hyd i ecosystem paramo barhaus fwya'r byd sef y Sumapaz Páramo yn ardal Sumapaz.[12]

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Amgueddfa Genedlaethol Colombia
  • Amgueddfa'r Plant Colombia
  • Eglwys gadeiriol
  • La Modelo (carchar enwog)
  • Torre Colpatria

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "PROYECCIONES DE POBLACIÓN".
  2. "Organización del Distrito Capital" (yn Sbaeneg). bogota.gov.co. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 5 Ionawr 2016.
  3. "Hot spots: Benchmarking global city competitiveness" (PDF). The Economist Intelligence Unit. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 16 Mai 2017. Cyrchwyd 5 Ionawr 2016.
  4. "IBM destaca a Bogotá como la ciudad con mayor número de proyectos de inversión extranjera en Latinoamérica" (yn Sbaeneg). IBM-Plant Location International (IBM-PLI). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Ionawr 2016. Cyrchwyd 5 Ionawr 2016.
  5. 5.0 5.1 "Ni Santa Fe ni Bacatá: estos fueron los primeros nombres de Bogotá". RCN Radio (yn Sbaeneg). 2018-08-06. Cyrchwyd 2019-09-10.
  6. "Historia de Bogotá | Archivo de Bogotá". archivobogota.secretariageneral.gov.co. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 2019-09-10.
  7. "¿Cuál es el origen del nombre de "Bogotá"?". National Geographic en Español (yn Sbaeneg). 2018-08-13. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mawrth 2019. Cyrchwyd 2019-09-10.
  8. Correal Urrego, 1990, p.13
  9. Rodríguez, J.F. (1982) [1859]. El Carnero [The Ramp] (yn Sbaeneg). Medellín, Colombia: Bedout.
  10. "Consulta de la Norma". Alcaldiabogota.gov.co. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 19 Mehefin 2017.
  11. "Bandera, Escudo e Himno de Bogotá - Instituto Distrital de Turismo". bogotaturismo.gov.co. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mawrth 2017. Cyrchwyd 19 Mehefin 2017.
  12. "Moors in Latin America". Samual Calde.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 1 Hydref 2010.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Colombia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato