La Paz
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas weinyddol Bolifia yn Ne America yw La Paz (sy'n golygu: Yr Heddwch), neu yn llawn Nuestra Señora de La Paz (Aymara: Chuquiago Marka). Mae hefyd yn brifddinas Talaith La Paz. Yn 2001 roedd poblogaeth y ddinas yn 789,585, a phoblogaeth yr ardal ddinesig, sy'n cynnwys dinasoedd El Alto a Viacha, dros 1.6 miliwn.
Sefydlwyd y ddinas yn 1548 gan y conquistadores Sbaenig dan Alonso de Mendoza, ar safle sefydliad brodorol, Laja. Symudwyd y ddinas i'w lleoliad presennol yn nyffryn Chuquiago Marka yn ddiweddarach.
Saif yng ngorllewin y wlad, yn yr Andes, 3,600 medr uwch lefel y môr. La Paz yw'r brifddinas genedlaethol uchaf yn y byd, ac yma y ceir cwrs golff a stadiwm pêldroed uchaf y byd, ymhlith pethau eraill.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Eglwys gadeiriol
- Eglwys San Francisco
- Museo Costumbrista (amgueddfa)
- Museo Nacional de Arte (amgueddfa)
- Palas yr Arlywydd
- Tŷ Pedro Domingo Murillo
Enwogion [golygu]
- Agustín Morales (1808-1872), milwr a gwleidydd
- Felipe S. Guzmán (1879-1932), gwleidydd