Amsterdam

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Amsterdam
Sights in Amsterdam.jpg
LocatieAmsterdam.svg
Lleoliad o fewn Bwrdeisdref Amsterdam
Gwlad Yr Iseldiroedd
Ardal Noord-Holland
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Llywodraeth Bwrdeisdrefol Amsterdam
Maer Eberhard van der Laan
Daearyddiaeth
Arwynebedd 84.6 km²
Uchder 7 troedfedd (2 medr) m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 758,198 (Cyfrifiad 2009)
Dwysedd Poblogaeth 11,548.8 /km2
Metro 2,158,372
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser CET (UTC+1)
Cod Post 1011 – 1109
Gwefan www.amsterdam.nl

Prifddinas a dinas fwyaf yr Iseldiroedd yw Amsterdam (Loudspeaker.svg ynganiad ?/i ). Saif ar Fae Ij a'r Afon Amstel yn nhalaith (provincie) Gogledd Holland. Roedd gan y ddinas boblogaeth o tua 1 miliwn (gan gynnwys y maesdrefi) ar y 1af o Ionawr 2008. Mae'r ddinas yn cynnwys yr ardal ogleddol Randstad sef y 6ed ardal fetropolitanaidd fwyaf yn Ewrop, gyda phoblogaeth o tua 6.7 miliwn.

Er mai prifddinas swyddogol yr Iseldiroedd yw Amsterdam, nid hi fu canolfan y llywodraeth erioed. Lleolir canolfan y llywodraeth, y senedd a thrigfan y frenhines i gyd yn Den Haag. Nid yw Amsterdam yn brifddinas o'i thalaith ei hun chwaith: prifddinas Gogledd Holland yw Haarlem.

Daw enw'r ddinas o'r Argae Amstel (yn Saesneg: Amstel Dam) sy'n esbonio tarddiad y ddinas; argae ar yr afon Amstel lle mae Sgwâr Dam wedi'i lleoli heddiw. Sefydlwyd pentref bychan yno yn ystod y 12fed ganrif a ddatblygodd yn un o borthladdoedd pwysicaf y byd yn ystod yr Oes Aur Iseldireg, o ganlyniad i'w datblygiad masnachol arloesol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ystyriwyd y ddinas yn ganolfan flaenllaw ar gyfer masnach a deiamwntiau. Ehangodd y ddinas yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif, wrth i gymdogaethau maesdrefi newydd gael eu sefydlu.

Amsterdam yn canolbwynt ariannol a diwylliannol yr Iseldiroedd. Lleolir nifer o sefydliadau Iseldireg mawrion yno ac mae 7 o 500 o gwmnïau mwyaf y byd, gan gynnwys Philips ac ING wedi'u sefydlu yn y ddinas. Lleolir Cyfnewidfa Stoc Amsterdam, sy'n rhan o Euronext, yng nghanol y ddinas. Yn flynyddol, daw 4.2 miliwn o dwristiaid i weld atyniadau'r ddinas, sy'n cynnwys ei chamlesi hanesyddol, y Rijksmuseum, Amgueddfa Van Gogh, Tŷ Anne Frank, yr ardal golau coch a'r siopau coffi canabis.

[golygu] Adeiladau

[golygu] Pobl o Amsterdam





Afon Amstel
Flag of the Netherlands.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill