Haarlem

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Grote Markt a'r Sint-Bavokerk yn Haarlem

Dinas yn yr Iseldiroedd yw Haarlem. Hi yw prifddinas talaith Noord-Holland, ac roedd ei phoblogaeth yn 2008 yn 147,613.

Saif y dinas ar yr arfordir, ar aber afon Spaarne, 20 km i'r gorllewin o Amsterdam. Ymhlith ei hadeiladau nodedig mae'r eglwys gadeiriol, sydd wedi ei chysegru i Sant Bavo. Ceir dwy amgueddfa nodedig yma, Amgueddfa Teylers, yr hynaf yn yr Iseldiroedd, ac Amgueddfa Frans Hals, gyda chasgliad o waith yr arlunydd Frans Hals ac arlunwyr eraill o Oes Aur arlunio'r Iseldiroedd.

Flag of the Netherlands.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato