Nicosia
Oddi ar Wicipedia
Nicosia (Groeg: Λευκωσία, Levkosía, Twrceg: Lefkoşa) yw prifddinas Cyprus. Saif ar afon Pedieos, ac mae'r boblogaeth tua 310,000.
Mae'r ddinas ar hyn o bryd wedi ei rhannu, gyda'r rhan ddeheuol yn perthyn i Weriniaeth Cyprus (y rhan Roegaidd o'r ynys) a'r gogledd i Weriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus. Gelwir y ffîn, sy'n mynd ar draws y ddinas o'r dwyrain i'r gorllewin, "y llinell werdd", ac mae dan reolaeth y Cenhedloedd Unedig.
Ar 3 Ebrill 2008, agorwyd Stryd Ledra yng nghanol Nicosia i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers 34 mlynedd, fel croesfan rhwng y dwy ran o'r ddinas.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Cofadeilad Eleftheria
- Gymnasiwm Pancyprian
- Mosg Selimiye
- Palas yr Archesgob
Enwogion [golygu]
- Alekos Michaelides (1933-2008), gwleidydd
- Ferdi Sabit Soyer (g. 1952), gwleidydd