Zagreb
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas a dinas fwyaf Croatia yw Zagreb (IPA: [ˈzâːgrɛb]) (Almaeneg: Agram ; Hwngareg: Zágráb). Roedd gan Zagreb boblogaeth o 786,200 (tua 1.2 miliwn yn yr ardal fetropolitaidd) yn 2008. Fe'i lleolir rhwng llethrau deheuol mynydd Medvednica a glannau afon Sava tua 122 m (400 troedfedd) uwch lefel y môr.
Oherwydd ei leoliad daearyddol yn ne-orllewin Basn Pannonia, mae Zagreb yn groesffordd o bwys rhwng Canolbarth Ewrop a Môr Adria. Dyma ganolfan ddiwydiannol a diwylliannol mwyaf Croatia lle ceir sedd y llywodraeth ganolog a nifer o gyrff gweinyddol.
Dolenni allanol [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: