Palermo
Oddi ar Wicipedia
Palermo yw prifddinas ranbarthol Sisili. Yn ogystal â bod yn ganolfan weinyddol mae hi'n borthladd pwysig. Fe'i lleolir ar arfordir gogledd-orllewinol yr ynys.
Cafodd y ddinas ei sefydlu gan y Ffeniciaid yn yr 8fed ganrif CC. Roedd yn ddinas bwysig dan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid ond ni ddaeth yn brif ddinas yr ynys tan gyfnod yr Arabiaid (9fed ganrif - 11eg). Mae sawl adeilad hanesyddol yn y ddinas yn adlewyrchu'r diwylliant hybrid a flodeuai'r adeg honno ynddi. Codid adeiladau gwych yn yr Oesoedd Canol yn ogystal, gan gynnwys yr eglwys gadeiriol ysblennydd a'r palas Normanaidd, sydd bellach yn sedd y senedd ranbarthol.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Eglwys gadeiriol
- Martorana
- Palazzo dei Normanni
- Palazzo Chiaramonte
- Palazzo Abatellis
- San Giovanni degli Eremiti
- Teatro Massimo
Enwogion [golygu]
- Giuseppe Tomasi di Lampedusa (1896-1957), awdur
- Vittorio De Seta (1923-2011), cyfarwyddwr ffilm