Tromsø

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dinas yng ngogledd Norwy yw Tromsø (Samieg: Romsa). Hi yw prifddinas talaith (Norwyeg:fylke) Troms, a hi yw'r ddinas fwyaf yn Norwy i'r gogledd o Gylch yr Arctig. O ddiwedd Mai hyd ganol Gorffennaf, ceir haul am 24 awr y dydd yma, tra o ddiwedd Tachwedd hyd ganol Ionawr, mae'n dywyll am 24 awr y dydd.

Saqif canol y ddinas a'r maes awyr ar ynys Tromsøya, sydd a phont a thwnel yn ei chysylltu a'r tir mawr. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 63,596.

Tromsø yn y gaeaf