Gibraltar
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
| Arwyddair: "Nulli Expugnabilis Hosti" | |||||
| Anthem: Anthem Gibraltar (lleol) God Save the Queen (brenhinol) |
|||||
| Prifddinas | Gibraltar | ||||
| Dinas fwyaf | Gibraltar | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg | ||||
| Llywodraeth | Tiriogaeth Dramor Prydain | ||||
| - Pennaeth gwladwriaeth | Elisabeth II |
||||
| - Llywodraethwr | Robert Fulton |
||||
| - Prif Weinidog | Peter Caruana |
||||
| Hanes - Cipiwyd gan Brydain - Ildiwyd gan Sbaen |
4 Awst 1704 11 Ebrill 1713 (Cytundeb Utrecht) |
||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
6.8 km² (229fed) 0 |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2008 - Dwysedd |
28,875 (207fed) 4,290/km² (5ed) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $1066 miliwn (197fed) $38,200 (*) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (*) | * (*) – * | ||||
| Arian cyfred | Punt Gibraltar (GIP) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
| Côd ISO y wlad | .gi | ||||
| Côd ffôn | +350 |
||||
Tiriogaeth sy'n perthyn i'r Deyrnas Unedig yw Gibraltar. Fe'i lleolir yn ne Penrhyn Iberia. Mae'n ffinio â Sbaen i'r gogledd ac mae Culfor Gibraltar i'r de. Mae Gibraltar yn bwysig iawn i Luoedd Arfog Prydain a cheir safle môrlu yno.
[golygu] Yr enw
Daw enw'r diriogaeth o'r enw Arabeg gwreiddiol Jabal Ţāriq (جبل طارق), sef "mynydd Tariq". Cyfeiria at y cadfridog Berber Umayyad Cadfridog Tariq ibn-Ziyad, a arweiniodd oresgyniad rhan o Iberia yn 711 gan filwyr o'r Maghreb. Cyn hynny fe'i hadnabuwyd fel Mons Calpe, un o Bileri Hercules. Heddiw gelwir Gibraltar yn "Gib" neu "y Graig" ar lafar gwlad.
[golygu] Sofraniaeth
Un o brif faterion llosg yn y berthynas rhwng Prydain a Sbaen yw sofraniaeth Gibraltar. Mae Sbaen yn gofyn am ddychwelyd yr ardal i'w gwlad wedi i sofraniaeth Sbaen drosti gael ei hildio yn 1713. Fodd bynnag, mae rhan fwyaf trigolion Gibraltar wedi gwrthod hyn.
