Funchal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ar Funchal

Prifddinas Madeira, un o Ranbarthau Ymreolaethol Portiwgal, yw Funchal.

Mae'n gorwedd ar arfordir deheuol Ynys Madeira. Mae ei hinsawdd mwyn a'i lleoliad deniadol yn ei gwneud yn gyrchfan poblogaidd gan dwristiaid ac mae'r economi leol yn dibynnu'n fawr ar dwristiaeth. Codwyd eglwys gadeiriol yno gan y Portiwgaliaid ar ddiwedd y 15fed ganrif. Mae'n borthladd pwysig ac allforir y rhan fwyaf o gynnyrch yr ynysoedd oddi yno, gan gynnwys gwin Madeira.

Bu Siarl I, Ymerawdwr Awstria, farw ym Monte, Funchal, ar 1 Ebrill 1922.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Amgueddfa "Stori Madeira"
  • Eglwys Gadeiriol
  • Igreja de Nossa Senhora do Monte (eglwys)
  • Reid's Palace (gwesty)

Enwogion[golygu]

Flag of Portugal.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Bortiwgal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.