Berlin
Prifddinas yr Almaen a dinas fwyaf y wlad gyda 3,440,441 o drigolion (31.03.2010) yw Berlin. Mae ar lannau yr afonydd Spree a Havel ac mae'n dalaith (Bundesland) yn ogystal â dinas. Mae yng nghanol talaith Brandenburg.
Cynnwys |
Gwleidyddiaeth[golygu]
Ar ôl bod yn rhan o'r Mark Brandenburg, daeth Berlin yn dalaith ei hun ym 1920. Klaus Wowereit yw'r Regierender Bürgermeister ("maer llywodraethol", Klaus Wowereit ar hyn o bryd. Gweler Meiri Berlin).
Hyd 1 Ionawr 2001 roedd 23 bwrdeistref yn y dref ond nawr does ond 12.
Hanes[golygu]
Sefydlwyd y dref tua 1200, ond roedd hi'n dwy dref ar y bryd: Berlin a Köln. Daethon nhw yn un dref ym 1307. Beth bynnag, er fod Berlin yn dref eithaf hen, mae'n bennaf olion y deunawfed ganrif i'w weld.
Roedd llys brenhinoedd Prwsia yn Berlin, ond dechreuodd y dref dyfu'n gyflym yn y pedwaredd ganrif ar bymtheg ar ôl dod yn brif ddinas yr Ymerodraeth Almaenig ym 1871. Roedd hi'n brif ddinas yn ystod Gweriniaeth Weimar a rheolaeth y Natsiaid a chafodd ei dinistrio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ar ôl y Rhyfel, rhannwyd y ddinas yn ddwy. Roedd y rhan ddwyreiniol yn brif ddinas Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (Dwyrain yr Almaen), ond Bonn oedd prif ddinas Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (Gorllewin yr Almaen).
Roedd Gorllewin Berlin yn rhan o Orllewin yr Almaen, ac felly yn ynys yn nhiriogaeth Dwyrain yr Almaen. O ganlyniad, roedd hi'n bwysig yn ystod y Rhyfel Oer. Ar 26 Mehefin 1948 dechreuodd gwarchae Berlin ac ar ôl hynny awyrglydiad Berlin. Ar 13 Awst 1961 dechreuwyd ar y gwaith o godi Mur Berlin.
Syrthiodd y mur ar 9 Tachwedd, 1989. Erbyn uniad yr Almaen y flwyddyn ddilynol doedd dim ond o olion y mur i'w weld.
Daearyddiaeth[golygu]
Adeiladau a chofadeiladau[golygu]
- Alte Nationalgalerie
- Berliner Dom
- Berliner Fernsehturm
- Bode Museum
- Brandenburger Tor
- Brücke Museum
- Deutsche Oper
- Deutsches Theater
- Hamburger Bahnhof
- Neue Nationalgalerie
- Neues Museum
- Rathaus Schöneberg
- Reichstag
- Rotes Rathaus
- Schloss Bellevue
- Schloss Charlottenburg
- Zoologischer Garten Berlin
Enwogion[golygu]
- Alexander von Humboldt (1769-1859), fforiwr
- Albert Lortzing (1801-1851), cyfansoddwr
- Walter Gropius (1883-1969), pensaer
- Nelly Sachs (1891-1970), bardd a dramodydd
- Karl Dönitz (1891-1980), morwr ac Arlywydd yr Almaen
- Max Ehrlich (1892-1944), actor, awdur a chyfarwyddwr
- Marlene Dietrich (1901-1992), actores a chantores
- Nikolaus Harnoncourt (g. 1929), cerddor
Dolenni allanol[golygu]
- Gwefan swyddogol Berlin.de
- Gwybodaeth dwristiaeth swyddogol am Berlin
- Mapiau o Berlin, o 1738 hyd heddiw
- EXBERLINER – cylchgrawn Saesneg
- Pensaerniaeth Berlin
- Panoramau o'r ddinas
- 90 delwedd o Berlin yn yr 20fed ganrif
- Dwyrain Berlin Ddoe a Heddiw
- Oriel lluniau