Mitte
Oddi ar Wicipedia
Mitte ydy'r enw ar brif ardal Berlin ac mae yng nghalon y brifddinas honno. Ar 1 Ionawr 2001 unodd y tri hen ddosbarth: Mitte, Tiergarten a Wedding gan ffurfio Mitte a chreu ardal newydd yn Berlin. Dyma'r unig ardal, ar wahân i Friedrichshain-Kreuzberg, sy'n cynnwys rhannau o'r hen ddwyrain a Gorllewin Berlin. Yma, yn y canol mae bron popeth yn cael ei gynrychioli a'i leoli: y Bundestag, y Bundesrat a'r Llywodraeth Ffederal, yn ogystal â llysgenadaethau nifer o wledydd.