Brandenburger Tor
Oddi ar Wicipedia
Mae Brandenburger Tor (Mynedfa Brandenburger) yn Berlin ar y Pariser Platz yn nosbarth Mitte (dosbarth canol) y ddinas. Cafodd ei adeiladu rhwng 1788-1791 ar gais brenin Prwsia: Friedrich Wilhelm II gan Carl Langhans Gotthard. Dyma adeilad enwocaf y ddinas, mae'n debyg. Mae'r porth yn symbol genedlaethol, gyda nifer o ddigwyddiadau pwysicaf hanes Berlin, yr Almaen, Ewrop a'r byd yn yr 20fed Ganrif yn gysylltiedig â'r Fynedfa.
Dyma ble oedd y ffin rhwng Dwyrain a Gorllewin Berlin, ac felly'r ffin rhwng y Pact Warsaw a NATO. Yr oedd hyn yn wir hyd at aduno'r Almaen yn 1990 a daeth yn symbol o'r Rhyfel Oer, ac ar ôl 1990 daeth yn symbol o'r aduno'r Almaen ac Ewrop.
[golygu] Oriel
[golygu] Brandenburg Gate ddoe a heddiw
-
Napoleon ym Merlin.
-
Ar ol 1870 Brwydr Sedan.
-
Y Quadriga ar y top