9 Tachwedd
Oddi ar Wicipedia
| << Tachwedd >> | ||||||
| Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su |
| 1 | 2 | 3 | ||||
| 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 |
| 11 | 12 | 13 | 14 | 15 | 16 | 17 |
| 18 | 19 | 20 | 21 | 22 | 23 | 24 |
| 25 | 26 | 27 | 28 | 29 | 30 | |
| 2013 | ||||||
| Rhestr holl ddyddiau'r flwyddyn | ||||||
9 Tachwedd yw'r trydydd dydd ar ddeg wedi'r trichant (313eg) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (314eg mewn blynyddoedd naid). Erys 52 diwrnod arall hyd diwedd y flwyddyn.
Cynnwys |
Digwyddiadau [golygu]
- 1938 - Ymosododd dilynwyr y Natsïaid ar Iddewon a'u heiddo a llosgwyd synagogau. Cawsant eu cymell gan araith Joseph Goebbels ac fe gawsai'r heddlu a'r gwasanaeth tân orchmynion i beidio ag amddiffyn eiddo'r Iddewon. Gelwir y noswaith hon yn Kristallnacht (noson y gwydr drylliedig).
- 1989 - Caniatawyd i bobl o Ddwyrain Berlin i groesi i'r Gorllewin pan agorwyd croesfannau Mur Berlin yn wyneb tyrfaoedd enfawr oedd am fanteisio ar y llacio yn y rheolau teithio a gyhoeddwyd yn gynharach yn y dydd. Dechreuodd y tyrfaoedd a grynhodd yn ystod y nos ar bob ochr i'r mur ar y gwaith o'i ddadfeilio.
Genedigaethau [golygu]
- 1818 - Ivan Turgenev, awdur († 1883)
- 1841 - Brenin Edward VII o'r Deyrnas Unedig († 1910)
- 1869 - Marie Dressler († 1934)
- 1885 - Velimir Khlebnikov, bardd († 1922)
- 1965 - Bryn Terfel, canwr
Marwolaethau [golygu]
- 1623 - William Camden, 72, haneswr a hynafiaethydd
- 1918 - Guillaume Apollinaire, 38, awdur
- 1937 - James Ramsay MacDonald, 71, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
- 1940 - Neville Chamberlain, 71, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
- 1953 - Dylan Thomas, 39, bardd a llenor
- 1970 - Huw T. Edwards, 77, undebwr llafur a gwleidydd