Blwyddyn naid

Oddi ar Wicipedia
Blwyddyn naid
Enghraifft o'r canlynoluned amser, math o flwyddyn Edit this on Wikidata
Mathblwyddyn galendr Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebblwyddyn gyffredin Edit this on Wikidata
Rhan oCalendr Iŵl, Calendr Gregori Edit this on Wikidata
Hyd366 diwrnod, 8,784 awr, 527,040 munud, 31,622,400 ±2 eiliad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gelwir blwyddyn sy'n cynnwys y dydd 29 Chwefror yn flwyddyn naid.

Esboniad[golygu | golygu cod]

Parti Blwyddyn Naid yn Neuadd y Pentref, Llanbrynmair (2 Mawrth 1940).

Dewiswyd y blynyddoedd sy'n rhanadwy gan 4 i fod yn flynyddoedd naid, heblaw am y blynyddoedd sy'n rhanadwy gan 100 a heb fod yn rhanadwy gan 400. Mae'r rheol hwn yn rhoi 97 blynyddoedd naid pob 400 mlynedd, hynny yw blynyddoedd ag iddynt gyfartaledd o 365.2425 dydd yng Nghalendr Gregori. Gan mai gwir hyd y flwyddyn yw 365.2422 dydd rhaid ychwanegu 1 diwrnod bob yn 3,319.8 blwyddyn at y calendr.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]