Sul y Cofio

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y diwrnod y cofir ym Mhrydain am y rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd yw Sul y Cofio. Mae ei union ddyddiad yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. I ddechrau, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn cael ei ddathlu fel Diwrnod yr Armistis (11 Tachwedd), ond yn 1945 newidiwyd yr enw i Sul y Cofio. Ers 1956 mae'n cael ei gadw ar y Dydd Sul cyntaf ar ôl Diwrnod yr Armistis (fel arfer yr ail Sul o fis Tachwedd).

Mae dau funud o ddistawrwydd am 11 o'r gloch y bore o flaen y Cenotaph yn Llundain yn cofio arwyddo'r cadoediad a ddaeth â'r Rhyfel Byd Cyntaf i ben ar 11 Tachwedd 1918. Rhoddir torchau o babïau coch o flaen y Cenotaph ac ar gofebion rhyfel ledled gwledydd Prydain.

Flag of the United Kingdom.svg Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato