William Camden

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
William Camden

Hynafiaethydd a hanesydd o Sais oedd William Camden (2 Mai 15519 Tachwedd 1623), a aned yn Llundain. Roedd yn hanesydd blaengar a gafodd ddylanwad mawr ar ei gyfoeswyr a'i olynwyr.

Roedd yn fab i arlunydd. Cafodd ei adddysg yn Ysgol Sant Pawl, Llundain, a Phrifysgol Rhydychen. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa fel athro (1575) ac yna'n brifathro (1593) yn Ysgol San Steffan, Llundain. Bu farw yn Chislehurst, 1623.

Gwaith pwysicaf a mwyaf dylanwadol Camden oedd ei gyfrol Britannia a gyhoeddodd yn Lladin yn 1586 (fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg yn 1610). Arolwg topograffegol o Ynysoedd Prydain ydyw, sy'n cynnwys nodiadau helaeth ar hynafiaethau yn ogystal â manylion daearyddol. Mae'r cyfan wedi'i trefnu fesul sir mewn dull arloesol. Dyma'r gwaith y cyfeirir ato gan amlaf fel "Camden's Britannia" gan hynafiaethwyr y ddwy ganrif olynol fel Thomas Pennant; roedd yn fath o Feibl iddynt. Erys yn ffynhonnell werthfawr iawn am hanes gwledydd Prydain.

Mae ei weithiau eraill yn cynnwys hanes achos llys Guto Ffowc a hanes cronolegol oes y frenhines Elisabeth I o Loegr.