Bryn Terfel
Mae Bryn Terfel (ganwyd 9 Tachwedd 1965) yn fariton ac yn ganwr opera byd enwog. Fe'i ganwyd ym Mhant Glas, Gwynedd. Bu'n canu a chystadlu mewn eisteddfodau ers pan yn ifanc iawn. Fe'i cysylltwyd ef yn fuan iawn yn ei yrfa gyda gwaith Mozart, yn enwedig Figaro a Leporello, ond ehangwyd ei repertoire i gynnwys gwaith trymach o lawer megis gwaith Wagner.
Graddiodd yn Ysgol Gerdd y Guildhall yn 1989, ac enillodd Gwobr Lieder yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, Caerdydd yn 1989.
Ers hynny mae wedi canu prif rannau ym mhrif dai opera'r byd gyda chlod uchel. Bryn Terfel yw sefydlydd Gŵyl y Faenol, a gynhelir bob mis Awst ar Stâd y Faenol, ger Bangor.
Roedd hefyd yn un o'r Jones's a dorrodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghŷd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.[1][2][3]
Repertoire Operatig [golygu]
Dyma'r gwaith a'r cymeriadau mae Bryn wedi eu perfformio ar lwyfan[4]
| Cyfansoddwr | Opera | Cymeriad | Dyddiadau | Recordiwyd |
|---|---|---|---|---|
| Britten | Peter Grimes | Balstrode | 1995 | Naddo |
| Donizetti | L'elisir d'amore | Dulcamara | 2001 | Naddo |
| Gounod | Faust | Mephistopheles | 2004 | Naddo |
| Mozart | Così fan tutte | Guglielmo | 1991 | Naddo |
| Mozart | Don Giovanni | Masetto | 1992 | Do |
| Mozart | Don Giovanni | Leporello | 1991 | Do |
| Mozart | Don Giovanni | Don Giovanni | 1999 – | Do |
| Mozart | Die Zauberflöte | Speaker | 1991 | Naddo |
| Mozart | Le nozze di Figaro | Figaro | 1991 – 2007 | Do |
| Offenbach | Les contes d'Hoffmann | Four male roles | 2000 | Naddo |
| Puccini | Gianni Schicchi | Gianni Schicchi | 2007 | Naddo |
| Puccini | Tosca | Scarpia | 2006 | Naddo |
| Puccini | Madama Butterfly | Sharpless | 1996 | Naddo |
| Richard Strauss | Die Frau ohne Schatten | Der Geisterbote | 1992 | Do |
| Richard Strauss | Salome | Jochanaan | 1993 | Do |
| Sondheim | Sweeney Todd | Sweeney Todd | 2002 – | Naddo |
| Stravinsky | The Rake's Progress | Nick Shadow | 1996 – 2000 | Do |
| Stravinsky | Oedipus Rex | Creon | 1992 | Do |
| Verdi | Falstaff | Falstaff | 1999 – | Do |
| Verdi | Falstaff | Ford | 1993 | Naddo |
| Wagner | Das Rheingold | Donner | 1993 | Naddo |
| Wagner | Das Rheingold | Wotan | 2005 – | Naddo |
| Wagner | Die Walküre | Wotan | 2005 – | Naddo |
| Wagner | Tannhäuser | Wolfram | 1998 | Naddo |
| Wagner | Der fliegende Holländer | Holländer | 2006 – | Naddo |
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
- ↑ 1,224 o Jonesiaid yn torri record byd!
- ↑ Meet the Joneses for world record BBC 19 Gorffennaf 2006
- ↑ (Saesneg) [1] "Bryn Terfel Opera Repertoire" gan y cyhoedwr "Harlequin Agency Limited", 2008-06-18