Wolfgang Amadeus Mozart

Oddi ar Wicipedia
Wolfgang Amadeus Mozart
GanwydJohannes Chrysostomus Wolfgangus Theophilus Mozart Edit this on Wikidata
27 Ionawr 1756 Edit this on Wikidata
Salzburg Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 1791 Edit this on Wikidata
Fienna, Rauhensteingasse Edit this on Wikidata
Man preswylMozart's birthplace Edit this on Wikidata
DinasyddiaethArchddugiaeth Awstria, Archbishopric of Salzburg, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, athro cerdd, pianydd, cerddor, organydd, fiolinydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amY Ffliwt Hud, Le nozze di Figaro, Don Giovanni, Così fan tutte, Die Entführung aus dem Serail, Symphony No. 40, Eine kleine Nachtmusik, Requiem Edit this on Wikidata
ArddullCyfnod clasurol, sardana Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadJohann Joseph Fux, Johann Sebastian Bach Edit this on Wikidata
Taldra1.63 metr Edit this on Wikidata
MudiadCyfnod clasurol Edit this on Wikidata
TadLeopold Mozart Edit this on Wikidata
MamAnna Maria Mozart Edit this on Wikidata
PriodConstanze Mozart Edit this on Wikidata
PlantKarl Mozart, Franz Xaver Wolfgang Mozart Edit this on Wikidata
LlinachMozart family Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Sbardyn Aur Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Wolfgang Amadeus Mozart (27 Ionawr 17565 Rhagfyr 1791) yn un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol a diwyd y cyfnod Clasurol. Fe'i ganwyd yn Salzburg, Awstria a dechreuodd gyfansoddi darnau pan oedd yn bump oed. Pan roedd yn dal yn blentyn aeth ei dad, Leopold Mozart, ag ef i chwarae o flaen teuluoedd crand Ewrop. Mae'n bosibl fod yr holl deithio wedi achosi problemau iechyd iddo yn hwyrach yn ei fywyd.

Bu farw ym 1791 yn drychinebus o ifanc, yn dlawd, ond wedi cyfansoddi cannoedd o ganeuon sy'n adnabyddus hyd heddiw.

Ysgrifennodd Mozart 68 symffoni, 27 concerto piano, yn ogystal â choncerti i'r clarinet, y corn Ffrengig, yr obo, y fiola, y ffidil, y ffliwt a'r telyn.

Wolfgang Amadeus Mozart

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Rhoddodd rhieni Mozart yr enw llawn Johannes Chrysostomus Wolfgangus Theophilus Mozart iddo. Ei dad oedd y cyfansoddwr o'r Almaen Johann Georg Leopold Mozart, oedd yn byw yn Awstria am rhan fwyaf ei fywyd.

Ei wraig oedd Constanze Weber. Caswsant chwech o blant, gan gynnwys Karl Thomas Mozart a'r cyfansoddwr Franz Xaver Wolfgang Mozart. Enwau eu plant eraill, bu farw yn eu plentyndod oedd Theresia Constanzia Adelheid Friedericke Maria Anna Mozart a Anna Maria Mozart (merched) a Johann Thomas Leopold Mozart a Raimund Leopold Mozart (bechgyn).

Gweithiau[golygu | golygu cod]

Operáu gan Mozart[golygu | golygu cod]

  • Die Schuldigkeit des ersten Gebotes, K. 35 (1767)
  • Apollo et Hyacinthus, K. 38 (1767)
  • Bastien et Bastienne, K. 50 (1768)
  • La finta semplice, K. 51 (1768)
  • Mitridate, K. 87 (1770)
  • Ruggiero (1771)
  • Ascanio in Alba, K. 111 (1771)
  • Betulia Liberata, K. 118 (1771)
  • Il sogno di Scipione, K. 126 (1772)
  • Lucio Silla, K. 135 (1772)
  • Thamos, König in Ägypten (1773, 1775)
  • La finta giardiniera, K. 196 (1774)
  • Il rè pastore, K. 208 (1775)
  • Zaide, K. 344 (1779)
  • Idomeneo, K. 366 (1780)
  • Die Entführung aus dem Serail neu Il Seraglio, K. 384 (1782)
  • L'oca del Cairo, K. 422
  • Lo sposo deluso, K. 430
  • Der Schauspieldirektor, K. 486
  • Le nozze di Figaro, K. 492 (1786)
  • Don Giovanni, K. 527 (1787)
  • Così fan tutte, K. 588 (1789)
  • Die Zauberflöte, K. 620 (1791)
  • La clemenza di Tito, K. 621 (1791)

Gweithiau eraill[golygu | golygu cod]

  • Offeren rhif 15 ("Coroniad") (1779)
  • Vesperae de Dominica (1779)
  • Eine Kleine Nachtmusik (1787)
  • Requiem (1791)
  • Ave verum corpus (1791)

Requiem[golygu | golygu cod]

Ym 1791, dechreuodd Mozart ysgrifennu Requiem sydd yn gasgliad o ddarnau gerddoriaeth i dalu teyrnged i’r meirw. Ond tra bod Mozart yn ganol ysgrifennu ei waith, bu farw yn Vienna, Awstria ar 5 Rhagfyr. Cafodd y requiem ei gwblhau yn ddiweddarach gan ei ddisgyblion, Franz Xaver Süssmayr, Joseph Eybler a Freystadler.