Salzburg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r erthygl yma yn ymdrin a dinas Salzburg. Am ystyron eraill, gweler Salzburg (gwahaniaethu)
Salzburg tros afon Salzach

Dinas yn Awstria a phrifddinas talaith Salzburg yw Salzburg. Roedd y boblogaeth yn 2008 yn 147,159, sy'n ei gwneud yn bedwaredd dinas Awstria o ran poblogaeth. Mae'n fwyaf adnabyddus fel man geni Wolfgang Amadeus Mozart.

Saif Salzburg ar afon Salzach yn ardal Flachgau, heb fod ymhell o'r ffîn a'r Almaen. Mae Abaty Benedictaidd Sant Pedr (Stift Sankt Peter) yn dyddio o 696. Hwn yw abaty hynaf Awstria, ac mae'n cynnwys llyfrgell hynaf y wlad. O ddiwedd yr 8fed ganrif ymlaen, roedd yn ganolfan Archesgobaeth Salzburg. Ceir nifer fawr o adeiladau baroc yma, yn ei plith ye Eglwys Gadeiriol a chastell Hohensalzburg, ar fryn 120 m uwch y ddinas. Dynodwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Daw nifer fawr o dwristiaid i Salzburg, gyda thŷ Mozart yn y Getreidegasse, sy'n awr yn amgueddfa, yn atyniad arbennig. Atyniad arall yw tŷ'r teulu Von Trapp, a anfarwolwyd yn y ffilm The Sound of Music.

Y prif dîm peldroed yw SV Austria Salzburg.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Abaty Nonnberg
  • Castell Hohensalzburg
  • Eglwys y Prifysgol
  • Palas Leopoldskron
  • Palas Mirabell
  • Salzburger Dom (eglwys gadeiriol)
  • Tŷ Mozart

Enwogion[golygu]